Gary Speed
Fe fydd cwest i farwolaeth rheolwr tîm pêl-droed Cymru Gary Speed yn cael ei agor heddiw.

Cafwyd hyd i gorff Gary Speed, oedd yn 42 oed, yn ei gartref yn Sir Gaer fore dydd Sul. Yn ôl adroddiadau, roedd wedi crogi ei hun.

Mae’n gadael gwraig, Louise, a dau fab.

Wrth siarad ar ran y teulu,  dywedodd asiant Gary Speed, Hayden Evans bod yr “holl negeseuon o gydymdeimlad a chefnogaeth wedi bod yn gysur mawr iddyn nhw  yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Ychwanegodd Hayden Evans nad oedd Gary Speed yn dioddef o iselder a bod ei briodas yn un hapus. Dywedodd Hayden Evans nad oedd Speed erioed wedi dioddef o iselder ac nad oedd unrhyw arwyddion bod ganddo broblemau.

Pan ofynnwyd a oedd gan y pêl-droediwr broblemau priodasol cyn ei farwolaeth dywedodd Hayden Evans wrth The Sun: “Mae Louise yn dweud nad ydy hynny’n wir. Dydy hi ddim yn deall y peth. Roeddan nhw’n hapus ac fe fyddai unrhyw un sy’n eu nabod yn dweud hynny hefyd. Dyna pam mae’n ddirgelwch.”

Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i gyn-chwaraewr Leeds United, Everton a Newcastle United, gan gynnwys teyrnged gan y Prif Weinidog David Cameron a Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Dywedodd Gareth Bale, un o chwaraewyr mwyaf disglair tîm Cymru, bod marwolaeth Speed yn “sioc enfawr”.

“Mae’n drasiedi, does neb yn gallu deall y peth. Rydan ni’n estyn ein cydymdeimlad at ei deulu a’i blant. Mae’n gyfnod anodd,” meddai.

Ddoe, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Jonathan Ford ei fod yn “golled enfawr”.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru bellach wedi agor llyfr o gydymdeimlad yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd er mwyn i gefnogwyr gael mynegi eu teimladau.

Mae cefnogwyr wedi gadael sgarffiau, crysau pêl-droed a blodau mewn sawl stadiwm gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, Elland Road, cartref Leeds United, a Pharc St James Newcastle United.

Mae disgwyl i’r cwest gael ei agor a’i ohirio yn llys y crwner yn Warrington yn ddiweddarach heddiw.