Teryngedau i Gary Speed
Mae penaethiaid  pêl-droed Cymru wedi dweud y bydd y sioc a’r dirgelwch ynglŷn â marwolaeth sydyn Gary Speed yn 42 oed, yn parhau am flynyddoedd i ddod.

Cafwyd hyd i gorff y tad i ddau o blant yn crogi yn ei gartref fore dydd Sul, oriau’n unig ar ôl iddo ymddangos ar raglen deledu fyw lle roedd yn siarad gyda ffigyrau amlwg ym maes pêl-droed.

Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i gyn-chwaraewr Leeds United, Everton a Newcastle United, gan gynnwys teyrnged gan y Prif Weinidog David Cameron a Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Mae’r heddlu yn Swydd Gaer wedi cadarnhau bod corff Gary Speed wedi ei ddarganfod yn y tŷ yn Huntington ar gyrion Caer, ac nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus am ei farwolaeth.

Prynhawn ma, dywedodd penaethiaid Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn “gwbl syfrdan” ac yn dal i geisio dod i delerau â’r digwyddiadau o fewn y 24 awr diwethaf.

Mewn cynhadledd i’r wasg yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Jonathan Ford ei fod yn teimlo’n rhyfedd i gynnal cynhadledd i’r wasg heb gael rheolwr tîm Cymru wrth ei ochr.

“Mae’n swreal,” meddai. “Rydan ni’n methu â deall a dwi’n credu y byddan ni’n dal i geisio dyfalu am flynyddoedd i ddod.

Rydan ni i gyd yn drist ofnadwy. Mae pawb yn y swyddfa wedi bod yn eu dagrau heddiw.”

Fe ddechreuodd Gary Speed ei swydd fel rheolwr Cymru i olynu John Toshack yn Rhagfyr 2010. Ar ôl dechrau anodd fe ddringodd tîm Cymru i fyny tablau FIFA i’r 51 safle.

Ychwanegodd Jonathan Ford: “Mae’n drueni mawr na fydd yn gweld ffrwyth ei lafur.”

Dywedodd bod eu cydymdeimlad yn bennaf gyda’i deulu, ac nad oeddan nhw wedi meddwl am y dyfodol.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru bellach wedi agor llyfr o gydymdeimlad yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd er mwyn i gefnogwyr gael mynegi eu teimladau.

Mae cefnogwyr wedi gadael sgarffiau, crysau pêl-droed a blodau mewn sawl stadiwm gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, Elland Road Leeds United, a Pharc St James Newcastle United.

Wrth siarad tu allan i gartref y pêl-droediwr yn Swydd Gaer, dywedodd asiant Gary Speed, Hayden Evans: “Hoffai teulu Gary ddiolch yn fawr i’r rhai sydd wedi anfon eu cydymdeimlad a theyrngedau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Mae’r gefnogaeth rydan ni wedi ei gael wedi helpu’n fawr.

“Mae’r teulu nawr yn gofyn am lonydd i alaru.”