Mae un o brif gyflwynwyr pêl-droed S4C yn dweud ei fod yn gobeithio y gall tîm pêl-droed Cymru fynd yn eu blaen i Gwpan y Byd 2014, er mwyn gwireddu breuddwyd Gary Speed.

Yn ôl Dylan Ebenezer, fe fyddai cyrraedd Cwpan y Byd 2014 yn ffordd i’r tîm cenedlaethol dalu teyrnged i reolwr sydd wedi trawsnewid y tîm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Ma’ beth ma’ Gary Speed wedi llwyddo i neud i’r tîm mewn llai na blwyddyn yn syfrdanol,” meddai Dylan Ebenezer wrth Golwg 360.

“Ro’dd e, a’r tîm hyfforddi, â’u llygad ar Gwpan y Byd, dyna oedd y freuddwyd,” meddai.

“Y gobaith yw y gall y chwaraewyr neud rwbeth er cof amdano fe nawr… cario mlan, fel teyrnged iddo.”

Yn ôl Dylan Ebenezer, roedd ei bresenoldeb fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru hefyd wedi trawsnewid agwedd chwaraewyr Cymru.

“O’n nhw’n amlwg yn parchu Gary Speed,” meddai.

Roedd y parch hwnnw hyd yn oed yn fwy, yn ôl Dylan Ebenezer, am iddo gymryd y penderfyniad o roi cyfrifoldeb capteinio tîm Cymru ar ysgwyddau ifanc iawn Aaron Ramsey, ag yntau ond yn 20 oed.

Ers i Gary Speed gymryd yr awenau fel rheolwr Cymru fis Rhagfyr diwethaf, mae Cymru wedi curo Gogledd Iwerddon, Montenegro, Norwy, Bwlgaria a’r Swistir, ac er colli pump yn gynharach yn y tymor, chwaraewyd gêm dda yn erbyn Lloegr.

“Fe fyddan nhw’n sgidie mawr iawn i unrhyw un eu llenwi,” meddai, “yn bendant mae’n golled enfawr i Gymru.”

‘Cyfle i rannu atgofion’

Bydd Dylan Ebenezer yn cyflwyno rhaglen deyrnged arbennig i Gary Speed ar S4C heno.

Bydd y rhaglen yn cynnwys teyrngedau personol gan y cyn-chwaraewyr rhyngwladol Dai Davies, Malcolm Allen, a John Hartson.

“Rhaglen syml iawn fydd hi, gyda John, Malcolm a Dai yn rhannu atgofion,” meddai Dylan Ebenezer.

“O’dd y bois dan deimlad yn ofnadw, ond o’n nhw moyn talu teyrnged.”

Ac mae Dylan Ebenezer ei hun yn cofio am fawredd Gary Speed, fel chwaraewr ac hyfforddwr: “O’dd e’n ŵr bonheddig,” meddai.

“Ma’ lot o fois pêl-droed yn waith caled, yn hunanbwysig, ond o’dd wastad amser ’da fe i bawb, o’dd e wastad yn bositif.”

Bydd tîm Sgorio yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau ei yrfa, ac yn rhannu eu hatgofion, yn y rhaglen Gary Speed: Teyrnged am 9.30pm heno, ar S4C.