Gary Speed
Mae’r faner genedlaethol wedi ei gostwng i’r hanner tu allan i’r Cynulliad heddiw, a hynny i gofio’r arwr pel-droed Gary Speed a fu farw ddoe.

Cymerwyd y penderfyniad gan y Llywydd, Roesmary Butler, fel arwydd o barch i’r Cymro y mae cenedl gyfan wedi gweld ei golli.

Mae galwadau nawr i gynnal munud o dawelwch yn y Cynulliad fory er cof am Gary Speed.

Wrth dyrdar heddiw, dywedodd Bethan Jenkins AC ei bod “wedi cysylltu gyda’r FAW [Cymdeithas Pel-droed Cymru] i roi fy nghydymdeimladau i deulu #garyspeed. Wedi gofyn i’r Llywydd am funud o dawelwch yn y #senedd. Mawrth ’fyd.”

Bydd y penderfyniad ynglyn â chynnal munud o dawelwch yn cael ei wneud bore fory gan Bwyllgor Busnes y Cynulliad.

‘Pam?’

Wrth i’r adroddiadau gyrraedd fod rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol wedi ei ddarganfod yn crogi fore ddoe, mae byd y bêl gron wedi bod yn gofyn ‘Pam?’

Yn ôl un o gyd-chwaraewyr cenedlaethol Gary Speed a’i ffrind agos, Robbie Savage, roedd yn swnio mewn hwyliau da ar y ffôn pan fu’n sgwrsio ag ef ddydd Sadwrn.

“Roedd mewn hwyliau da ar y ffôn ddoe pan oedden ni’n siarad gyda’n gilydd, yn siarad am bêl-droed ac am ddawnsio, roedd yn gyd-chwaraewr gwych ac yn ffrind gwych,” meddai ar wefan Twitter.

“Mae’r byd wedi colli dyn mawr yn Gary Speed,” meddai wedyn. “Dw i wedi torri fy nghalon ac ro’n i wedi siarad ag ef fore ddoe. Pam! Pam! Pam! Fe fydda’ i’n ei golli gymaint.”

Cafodd y tad i ddau ei ddarganfod yn ei gartref bore ddoe, llai na 24 awr wedi iddo ddweud ei fod yn edrych ymlaen at weld tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 2014.

Mae’r cyflwynydd a’i gyfeillion ar y rhaglen honno, Football Focus, yn dweud nad oedden nhw wedi sylwi ar unrhyw beth oedd yn awgrymu ei fod yn anhapus yn ystod y pedair awr y bu yn y stiwdio teledu.

Teyrngedau o bob cwr

Mae’r teyrngedau i’r rheolwr a’r cyn-gatpen ar dîm pêl-droed Cymru wedi dod o bob cwr ers i’r newyddion gael ei gyhoeddi, gyda’r Prif Weinidog David Cameron a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn mynegi eu tristwch at y newyddion.

Fe gadarnhaodd heddlu Swydd Caer ddoe fod corff y tad a’r gŵr 42 oed wedi ei ddarganfod mewn tŷ yn Huntingdon, ar gyrion Caer, ac nad oedd unrhyw “amgylchiadau amheus” ynglŷn â’r farwolaeth.

Mae’n gadael gwraig, Louise, a dau fab, Ed a Tommy.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y teulu nawr wedi gofyn am gael “llonydd i alaru ar yr adeg anodd hwn.”

Mae Cymdeithas Pêl-droed Lloegr wedi ategu’r apêl, gan ddweud eu bod yn estyn eu cydymdeimlad i’r teulu, ac yn “gofyn i bawb barchu preifatrwydd y teulu ar yr adeg trist iawn hwn.”

Rhaglen deyrnged

Bydd rhaglen deyrnged arbennig yn cael ei dangos ar S4C heno i gofio am Gary Speed.

Bydd tîm Sgorio yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau ei yrfa yn y rhaglen Gary Speed: Teyrnged, am 9.30pm heno.

Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno’r rhaglen, gyda theyrngedau personol gan y cyn-chwaraewyr rhyngwladol Dai Davies a Malcolm Allen, ac gan John Hartson, oedd yn ffrind i reolwr Cymru ac a fu’n chwarae i Gymru ar yr un pryd â Gary Speed.

Bydd rhaglen Wedi 7 hefyd yn cynnwys teyrnged i’r rheolwr a chyn-gapten tîm pêl-droed Cymru.