Mae Awdurdod S4C heddiw wedi cyhoeddi Adroddiad Turner yn dilyn ei adolygiad o effeithlonrwydd ac arloesedd y Sianel.

Mae’r Awdurdod hefyd wedi cyhoeddi eu hymateb i’r argymhellion ac mae Richie Turner wedi croesawu ymateb y sianel.

Yn ystod yr adolygiad bu Richie Turner yn holi aelodau staff S4C a rhanddeiliaid y Sianel a chafodd  ei adroddiad i’r Awdurdod ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2011. Roedd Richie Turner yn feirniadol o’r diwylliant o fewn S4C ac o’r cyfathrebu rhwng y Sianel a’i rhanddeiliaid.

Roedd wedi cynnig nifer o argymhellion i wella rheolaeth, diwylliant a chyfathrebu mewnol S4C. Gwnaeth awgrymiadau hefyd am sut i wella effeithlonrwydd ac i hybu arloesedd.

‘Mwy i’w wneud eto’

“Wrth ddod â pherson allanol i mewn, mae wedi caniatáu i staff a chyflenwyr allanol siarad yn blaen ac mae llawer o’r negeseuon sy’n cael eu cyfleu yn rhai anghyfforddus a heriol,” meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.

“Mae’n bwysig bod y Tîm Rheoli a’r Awdurdod yn eu clywed, yn eu dehongli’n gywir ac yn ymateb yn adeiladol iddyn nhw. Mae llawer o waith wedi ei wneud i’r cyfeiriad hwn eisoes, fel y mae ymateb yr Awdurdod yn ei nodi, ond mae yna fwy i’w wneud eto.

“Er bod yna gyhoeddiadau pwysig wedi eu gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf sy’n gosod seiliau cadarn i ddyfodol S4C, mae cyhoeddi’r adroddiad yma heddiw yn fodd i’n hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r staff galluog sydd gennym, ac o frwdfrydedd a thalent y cynhyrchwyr annibynnol a’u timau hwy.”

“Mae’r materion sy’n cael eu codi yn rhai y bydd yn angenrheidiol i ni ail-ymweld â nhw’n gyson dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, yn enwedig o ystyried y toriadau ariannol sy’n cael eu gweithredu, er mwyn sicrhau fod y broses o gomisiynu rhaglenni a chyflenwi gwasanaeth yn digwydd yn y modd mwyaf effeithiol posib.”

‘Croesawu’ ymateb S4C

Dywedodd Richie Turner ei fod yn croesawu ymateb S4C a’r gwelliannau mae S4C wedi eu gwneud wrth weithredu’r newidiadau gafodd eu hargymhell yn ei adroddiad.

“Dylid cymeradwyo S4C am fod digon agored i gomisiynu adolygiad annibynnol o’i effeithlonrwydd a’i gallu arloesol,” meddai Richie Turner.

“Mae gan y darlledwr nawr y sylfaen i greu sefydliad mwy agored a chreadigol gyda’r gallu i fanteisio ar syniadau – sefydliad fydd yn adlewyrchu’n llwyr bob agwedd o’r diwylliant a’r gymdeithas Gymreig.”

Mae modd gweld yr adroddiad llawn ac ymateb S4C yma.