Mae morwyr wedi cael rhybudd i gadw llygad allan am gar yn y môr o gwmpas Abertawe heddiw.
Cafodd y car Vauxhall Corsa ei lusgo allan i’r môr brynhawn ddoe, wedi i ddyn yrru’r car i lawr llithrfa gychod ger y Mwmbwls, a chael ei ddal yn y tywod ar y traeth.
Cafodd Gwylwyr y Glannau’r Mwmbwls yr alwad am 2.40pm brynhawn ddoe, a sicrhawyd bod y gyrrwr a’r teithiwr arall allan o’r car yn ddiogel. Ond cyn iddyn nhw fedru symud y car oddiar y traeth, roedd y llanw wedi dechrau dod i mewn.
Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau’r Mwmbwls wrth Golwg 360 y bore ’ma fod y môr yn dod i mewn yn uchel iawn ar hyn o bryd, ac yn mynd allan yn bell iawn, a gallai hynny fod wedi cyfrannu at ddiflaniad y car.
“Mae’n debyg bod y car wedi cael ei weld yn arnofio ar wyneb y dŵr ar un adeg,” meddai’r llefarydd wrth Golwg 360. “Ond erbyn i’r heddlu fynd i chwilio am 2am y bore ’ma, pan oedd y llanw’n isel, roedd y car wedi diflannu.”
Mae’r gwasanaeth adfer nawr yn ceisio dod o hyd i’r car Vauxhall Corsa, oedd ar fenthyg gan y pâr. Ond yn ôl gwylwyr y glannau’r Mwmbwls, gallai’r car fod unrhyw le ym Môr Hafren erbyn hyn.