Ed Miliband
Mae arweinydd Llafur ym Mhrydain, Ed Miliband, wedi dweud unwaith eto heddiw ei fod yn gwrthod condemnio’r gweithredu diwydiannol gan ddwy filiwn o weithwyr y sector gyhoeddus fory.
Er ei fod wedi dweud y bydd y streicio fory yn achosi anhrefn “ofnadwy” mae’r arweinydd wedi gwrthod a beirniadu’r rheiny sydd yn gweithredu.
Dywedodd arweinydd Llafur ei fod yn “casau” effeithiau’r streic, gan gynnwys cau ysgolion a gohirio llawdriniaethau, ond dywedodd na fyddai’n condemnio’r gweithredu.
Wrth gyfeirio at un pennaeth ysgol a welodd ar raglen Daybreak ar ITV, dywedodd Ed Miliband fod y pennaeth, “a nifer o’i gyd-weithwyr, yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosib gan y Llywodraeth, gan fod y Llywodraeth wedi dod â thrafodaethau i ben dros bensiynau’r sector gyhoeddus.
“Maen nhw’n gosod – a dwi ddim yn meddwl bod pobol yn sylweddoli hyn eto – cynnydd treth o 3% ar rhai o’r gweithwyr sydd ar y tâl isaf drwy’r wlad, a hynny nid i’w helpu nhw gyda’u pensiynau ond er mwyn helpu talu’r diffyg ariannol,” meddai.
“Bydd yr anrhefn yn ofnadwy, ond dydw i ddim yn mynd i gondemnio’r rheiny sydd wedi cymryd y penderfyniad hwn.”
Daw’r sylwadau ar ôl i Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, honni ddoe fod arweinwyr undebau eisiau “sarnu” yr adferiad economaidd a chreu diflastod cymdeithasol.
Mae disgwyl i fwy na 1,000 o wrthdystiadau gael eu cynnal ar draws y DU yfory.