Fe fydd y gwaith o chwilio am bump o forwyr sydd ar goll ar arfordir Pen Llŷn yn ail-ddechrau heddiw.

Cafodd dau ddyn eu hachub gan hofrennydd y llu awyr fore Sul ar ôl i long nwyddau suddo ym Môr Iwerddon tua 10 milltir oddiar arfordir Pen Llŷn. Cafodd corff trydydd dyn ei ddarganfod yn y môr yn ddiweddarach.

Cafodd gwylwyr y glannau eu galw tua 2am fore Sul ar ôl i’r llong fynd i drafferthion. Mae’n debyg bod ton anferth wedi sgubo dros y Swanland, a’i bod wedi torri yn hanner. Roedd wyth o bobol o Rwsia ar fwrdd y Swanland.

Dywed Gwylwyr y Glannau eu bod yn credu mai gwyntoedd cryfion ym Môr Iwerddon oedd wedi achosi’r ddamwain.

Cafodd y ddau ddyn eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor a’u rhyddhau yn ddiweddarach.

Daeth y chwilio i ben bnawn dydd Sul am 4.45pm ac fe fydd yn ail-ddechrau am 8am bore dydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau y byddan nhw’n chwilio tua 105 milltir o Gaergybi i Aberdyfi.

Roedd y Swanland yn cludo cerrig calch o Landdulas, ger Abergele i Cowes ar Ynys Wyth.

Roedd y Tywysog William ymhlith criw’r hofrennydd cyntaf i gyrraedd y safle fore Sul.