Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae’r Gynghrair Arabaidd wedi cytuno gyda mwyafrif llethol i gyflwyno sancsiynau yn erbyn Syria – er mwyn pwyso ar ei llywodraeth i roi’r gorau i’r trais yn erbyn ei phobl ei hun.

Dyma’r tro cyntaf i’r Gynghrair gyflwyno mesurau yn erbyn gwladwriaeth Arabaidd.

Yn ogystal â chreu problemau economaidd i Syria, fe fydd y gwaharddiadau’n ergyd i ddelwedd y wlad sy’n ystyried ei hun fel cadarnle i genedlaetholdeb Arabaidd.

Fe fydd y sancsiynau’n golygu gwrthod unrhyw drafodion ariannol â banc canolog Syria a rhoi’r gorau i gyllid gan lywodraethau Arabaidd ar gyfer prosiectau yn Syria.

Fe wnaeth 19 allan o’r 22 o wledydd y Gynghrair bleidleisio o blaid y gwaharddiadau, gyda dwy arall, Irac a Libanus, yn ymatal.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae mwy na 3,500 wedi cael eu lladd yn Syria ers mis Mawrth wrth i’r Arlywydd Bashar Assad ymosod yn ddidrugaredd ar brotestwyr yn erbyn ei lywodraeth.