Gary Speed - colled enfawr ar ei ôl
Mae marwolaeth sydyn Gary Speed yn 42 oed wedi cael ei disgrifio fel colled enfawr i Gymru mewn llu o deyrngedau i reolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol.
Meddai capten Cymru, Aaron Ramsey:
“Heddiw mae’r byd wedi colli rheolwr pêl-droed o fri, ond yn dristach fyth, ddyn mawr. Fe fydd pawb yn gweld ei golli.”
Mewn teyrnged yn cloriannu’i yrfa ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, dywedir:
“Roedd pawb yn y Gymdeithas Bêl-droed yn edmygu angerdd Gary i’r swydd ac i’r dasg o godi’r tîm yn ôl yn safleodd Ewrop a’r Byd. Gyda dyddiadau’r gemau grŵp ar gyfer Cwpan y Byd newydd eu cytuno’r wythnos ddiwethaf ym Mrwsel, roedd cymaint i edrych ymlaen amdano dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
“Mae’r drasiedi hon sydd wedi digwydd i rywun mor ifanc a dawnus yn golled enfawr nid yn unig i’w deulu a’i ffrindiau ond i’r genedl gyfan.”
Addawodd y Llywydd, Phil Pritchard y bydd y Gymdeithas Bêl-droed yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu teulu Gary Speed yn yr amser trist ac anodd yma iddyn nhw.
Fe wnaeth gyfraniad holl bwysig, yn ôl Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Laura McAllister:
“Roedd Gary yn esiampl ffantastig i bawb mewn pêl-droed. Yn ogystal â’i lwyddiant diweddar fel rheolwr Cymru roedd ganddo ymrwymiad unigryw i ddatblygu’r gêm ar bob lefel, o lawr gwlad i’r tîm cenedlaethol, gan sicrhau bod pêl-droed yn gêm i bawb.
“Rydym yn drist iawn gyda’r newyddion heddiw a gwyddom y bydd yn cael ei golli gan bawb oedd yn ymwneud â chwaraeon yng Nghymru.”
Tristwch a sioc
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Dw i’n hynod o drist o glywed am farwolaeth Gary Speed. Mae hyn yn newyddion enbyd ac mae’n calonnau gyda’i deulu ar yr hyn sy’n sicr o fod yn amser anodd iawn iddyn nhw.”
Meddai Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad, Andrew RT Davies:
“Mae’r newyddion heddiw’n sioc fawr. Mae bron yn anghredadwy i feddwl ein bod ni wedi colli dawn mor fawr mor ifanc.
“Roedd Gary Speed yn hynod o ddawnus ac fe fydda i – ynghyd â miliynau o bobl eraill – bob amser yn ei gofio fel ffigur chwedlonol mewn pêl-droed.”
Torcalon
Mewn cyfres o negeseuon teimladwy ar Twitter, dywedodd ei gyd-bêl-droediwr Robbie Savage:
“Mae’r byd wedi colli dyn mawr yn Gary Speeed. Dw i wedi torri fy nghalon ac ro’n i wedi siarad ag ef fore ddoe. Pam! Pam! Pam! Fe fydda’ i’n ei golli gymaint.
“Roedd mewn hwyliau da ar y ffôn ddoe pan oedden ni’n siarad gyda’n gilydd, yn siarad am bêl-droed ac am ddawnsio, roedd yn gyd-chwaraewr gwych ac yn ffrind gwych. RIP.”
Mewn teyrnged ar Radio Wales, meddai cyn-reolwr Cymru, Bobby Gould: “Roedd yn wirioneddol broffesiynol yn yr hyn a wnâi. Fe wnâi chwarae yn rhywle i chi – ar y chwith, yn y cefn, canol cae. Mae’n gymaint o drasiedi.
“Mae pobl wedi eu syfrdanu. Fe welais i John Hartson gynnau ac fe ddywedais ‘wyt ti wedi clywed am Gary?’ Fe wnaeth y dyn mawr grïo a chrïo. Fe wnaethon ni gofleidio’n gilydd.
“Mae wedi mynd adref (o gêm Abertawe yn Stadiwm Liberty). Dyna yw ei barch tuag at Gary trwy ddweud ‘Alla i ddim gweithio’r pnawn yma’. Speedo oedd ei fêt.”
Dechreuodd y gêm yn Abertawe gyda munud o dawelwch i gofio Gary Speed, ond trôdd y tawelwch yn floedd o gymeradwyaeth o fewn eiliadau.