Y diweddar Gary Speed
Mae Gary Speed, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi marw yn 42 oed.
Mewn datganiad ar ei gwefan, dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru:
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n drist o gyhoeddi marwolaeth rheolwr y tîm cenedlaethol, Gary Speed.
“Estynnwn ein cydymdeimlad at y teulu a gofynnwn i bawb barchu preifatrwydd y teulu ar yr adeg hynod drist yma.”
Cafwyd hyd i’w gorff yn ei gartref yng Nghaer y bore yma.
Meddai llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaer:
“Am 7.08 fore heddiw, cafodd Heddlu Sir Gaer wybod am farwolaeth sydyn mewn cyfeiriad yn Huntington, Caer.
“Aeth plismyn yno lle cafwyd hyd i ddyn 42 oed wedi marw. Mae ei deulu agosaf wedi cadarnhau mai Gary Speed oedd y dyn.
“Does dim amgylchiadau amheus ynghylch y farwolaeth. Mae’r teulu wedi gofyn am gael llonydd i alaru ar yr adeg anodd yma. Bydd teyrnged gan y teulu’n cael ei chyhoeddi ymhellach ymlaen ond nid heddiw.”
Roedd Gary Speed wedi bod yn rheolwr Cymru ers mis Rhagfyr y llynedd, ac wedi arwain rhediad llwyddiannus o bedair buddugoliaeth mewn pum gêm rhyngwladol yn ddiweddar i godi Cymru i’r 50fed safle yn rhengoedd y byd. Cafodd yrfa ddisglair fel chwaraewr yn y tîm cenedlaethol yn osgytal, gan ennill 85 o gapiau dros gyfnod o 14 mlynedd.