Port Talbot 0–1 Llanelli
Roedd un gôl yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Lanelli yn erbyn Port Talbot yn Stadiwm GenQuip o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn.
Gôl y capten, Stuart Jones wedi awr o chwarae oedd yr unig ddigwyddiad o bwys ar brynhawn gwlyb a gwyntog ym Mhort Talbot.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd Port Talbot yn dda ond wnaethon nhw ddim poeni Ashley Morris yn y gôl i Lanelli yn y deg munud cyntaf. Yna, daeth Sacha Walters yn agos gyda chic rydd wedi 12 munud.
Daeth Chad Bond yn agos gyda hanner foli yn y pen arall ddau funud yn ddiweddarach cyn i Jason Bowen wastraffu cyfle euraidd i roi’r Cochion ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae. Curodd Bowen y gôl-geidwad, Bartek Folger ond roedd Paul Keddle yn ôl ar y llinell i achub y Gwŷr Dur.
Daeth cyfle gorau’r hanner i Bort Talbot wedi 35 munud, cyd chwarae da rhwng Martin Rose a Cortez Belle ond Morris yn gwneud arbediad da o ergyd Rose o ddeg llath.
Unig Gôl y Gêm
Stuart Jones a sgoriodd unig gôl y gêm wedi awr o chwarae. Llwyddodd Port Talbot i glirio croesiad gwreiddiol Craig Williams o gic gornel ond rhoddodd Williams y bêl yn ôl yn y cwrt cosbi gyda chroesiad uchel a llwyddodd Jones, y capten i orffen yn daclus gydag ochr ei droed.
Cafodd Williams ei hun gyfle i ddyblu mantais Llanelli funud yn unig yn ddiweddarach ond saethodd ei foli yn uchel dros y trawst ag yntau mewn llatheni o le yn y cwrt cosbi.
Gwnaeth Folger yn dda i arbed ymdrech Kris Thomas yn fuan wedyn ar ôl gwneud smonach o’r croesiad gwreiddiol o gic gornel.
Cafodd Rhys Griffiths gêm ddistaw ar y cyfan ond dylai fod wedi sgorio gyda phum munud yn weddill pan gyflwynwyd y bêl iddo gan gic wael Folger. Er bod y blaenwr 40 llath i ffwrdd o’r gôl dylai fod wedi sgorio gyda’r gôl-geidwad allan o’i safle.
Er i’r tîm cartref fwynhau digon o’r meddiant yn y gêm wnaethon nhw ddim edrych fel sgorio mewn gwirionedd. Roedd amddiffyn Llanelli yn rhy gryf iddynt ac roedd yr ymwelwyr yn haeddu’r fuddugoliaeth yn y diwedd er nad oedd hwn yn berfformiad gwych o bell ffordd.
Ymateb
Andy Legg oedd y rheolwr hapus ar ddiwedd y 90 munud ac roedd yn llawn clod i’w gapten a seren y gêm, Stuart Jones:
“Roedd hi’n anodd iawn allan yna heddiw ond fe setlwyd y gêm gan gôl wych gan fy amddiffynnwr canol. Mae o wedi sgorio tair mewn pedair yn awr, mae o’n dangos y ffordd ar hyn o bryd, yn arwain y tîm fel y dylai capten ei wneud.”
Ac er nad chafodd tîm Marc Jones ganlyniad ffafriol roedd rheolwr Port Talbot yn hapus iawn gydag ymdrech ei chwaraewyr yntau hefyd:
“Fe wnaethon ni gystadlu’n dda am y 90 munud ac mae un camgymeriad wedi ein cosbi ni… yr unig beth a wnaethon ni’n anghywir drwy’r prynhawn.”
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Llanelli i frig y gynghrair gan i Fangor golli yn y Drenewydd ond mae Port Talbot ar y llaw arall yn aros yn yr wythfed safle.