Duncan Jones - Seren y gêm
Connacht 6–17 Gweilch

Bydd y Gweilch yn hapus wrth iddynt ddychwelyd i Gymru gyda phedwar pwynt arall yn y Pro12 yn dilyn buddugoliaeth dda ar noson hynod wyntog ym Maes Chwarae Galway. Roedd ceisiau gan Matthew Morgan a Sonny Parker yn ddigon i gipio buddugoliaeth mewn gêm braidd yn ddi fflach.

Dechrau Da i Connacht

Connacht a gafodd y gorau o’r gêm yn y chwarter awr agoriadol a chawsant gyfle i fynd ar y blaen gyda chic gosb wedi deg munud yn dilyn trosedd gan Ian Gough mewn llinell. Ond methodd Miah Nikora y gic yng ngwynt cryf Galway.

A bu bron iddynt sgorio cais ddau funud yn ddiweddarach wrth i’r mewnwr, Paul O’Donohoe anelu am y gornel ond tarodd y bêl ymlaen ar yr eiliad dyngedfenol. Yna daeth y pwyntiau cyntaf haeddianol i’r tîm cartref wedi chwarter awr, Nikora yn llwyddo gyda chyfle hawdd y tro hwn, 3-0 i Connacht.

Ond tarodd y Gweilch yn ôl yn syth gyda chic gosb Matthew Morgan yn unioni’r sgôr wedi 18 munud.

Cais Cyntaf y Gêm

Daeth cais cyntaf y gêm i’r Gweilch toc wedi hanner awr a chais da ydoedd hefyd. Gwnaeth haneri y rhanbarth o Gymru yn wych, y mewnwr, Rhys Webb yn bylchu a’r maswr, Morgan ar ei ysgwydd i dderbyn y bêl a gorffen y symudiad. Cais da i’r Gweilch a Morgan yn trosi hefyd er mwyn ei gwneud hi’n 10-3.

Llwyddodd Nikora gydag ail gic gosb er mwyn lleihau’r bwlch cyn hanner amser ond roedd mantais bedwar pwynt y Gweilch yn un dda yn erbyn gwynt mor gryf.

Bu rhaid i’r Gweilch chwarae gyda phedwar dyn ar ddeg am gyfnod ar ddechrau’r ail hanner wedi i Ian Gough gael ei yrru i’r gell gosb ond llwyddodd yr ymwewlyr o Gymru i oroesi’r deg munud heb ildio pwyntiau.

Cais Arall i’r Gweilch

Ac yn fuan wedi i’r clo ddychwelyd i’r cae sgoriodd y Gweilch eu hail gais. Y prop, Duncan Jones a wnaeth y bylchiad gwreiddiol cyn i’r olwyr ddefnyddio pêl gyflym yn effeithiol er mwyn creu cyfle hawdd i’r eilydd, Sonny Parker groesi’r llinell gais. Ychwanegodd Morgan y trosiad er mwyn ymestyn mantais yr ymwelwyr i 11 pwynt.

Llwyddodd Morgan a’r eilydd, Hanno Dirksen i wneud smonach llwyr o gyfle da am drydydd cais yn hwyr yn y gêm ond roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel pryn bynnag, 17-6 i’r Gweilch.

Dyma sylwadau Duncan Jones yn dilyn y gêm:

“Roedden ni’n gwybod ei bod hi am fod yn wyntog a fe waethygodd hi dros nos neithiwr, ond fe gadwon ni at ein cynllun o gadw’r bêl yn y dwylo. Mae Connacht yn dîm anodd iawn i’w chwarae, yn enwedig oddi cartref felly mae hi’n fuddugoliaeth dda i ni.”

Buddugoliaeth dda a buddugoliaeth sydd yn codi’r Gweilch yn ôl i frig y RaboDirect Pro12 ar ôl i Leinster neidio drostynt am ychydig oriau yn gynharach yn y dydd.