Casnewydd 0–1 Luton
Colli fu hanes Casnewydd ym Mharc Sbytu heddiw wedi i gôl hwyr Danny Crow gosbi’r tîm o Gymru am fethu cyfleoedd.
Casnewydd a gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn yr hanner cyntaf. Arbedodd gôl-geidwad Luton, Kevin Pilkington ymdrech Elliot Buchanan wedi dim ond tri munud cyn i Danny Potter, golwr y tîm cartref orfod arbed ergyd Stuart Fleetwood ychydig funudau’n ddiweddarach.
Yna methodd Sam Foley gyfres o gyfleoedd i roi Casnewydd ar y blaen. Ergydiodd yr ymosodwr dros y trawst wedi chwarter awr o chwarae cyn i Pilkington arbed dwy ergyd ganddo wedi 25 munud a 35 munud. Di sgôr ar yr egwyl felly a Chasnewydd yn wastraffus.
Bu rhaid i Potter arbed ymdrech arall gan Fleetwood yn fuan yn yr ail hanner cyn cael ei orfodi i wneud arbediad arall o gic rydd Jake Howells wedi awr o chwarae.
Cafodd Andrew Hughes gyfle i Gasnewydd gydag 20 munud yn weddill ond arbedodd Pilkington, a’r ymwelwyr a orffennodd y gêm gryfaf.
Ond er gwaethaf pwyso Luton roedd hi’n ymddangos fod tîm Justin Edinburgh yn mynd i gael pwynt o’r gêm ond cipiwyd hwnnw oddi arnynt yn greulon wedi dau funud o amser a ganiateir am anafiadau. Yr eilydd, Danny Crow a sgoriodd i gydag ergyd gywir i gornel isaf y rhwyd wedi i Ryan Brunt ddod o hyd iddo yn y cwrt chwech.
Torcalon hwyr i Gasnewydd felly ac roedd hi’n amlwg fod Edinburgh yn siomedig wrth iddo siarad â’r BBC ar ôl y gêm:
“Roeddem ni mewn safle i gael pwynt o’r gêm ond wnaethom ni ddim llwyddo i wneud hynny… Mae timau da yn eich cosbi chi ac fe gawsom ni ein cosbi heddiw. Fe gawsom ni gyfle i’w cosbi nhw ond wnaethon ni ddim.”
Mae’r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn safleoedd y gwymp ddau safle yn unig o waelod Uwch Gynghrair y Blue Square.