Braintree 0–0 Wrecsam
Bydd Wrecsam yn dychwelyd o Braintree gyda phwynt heno yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr ar Ffordd Cressing yn Uwch Gynghrair y Blue Square. Gorffennodd y tîm cartref y gêm gyda deg dyn ond methodd y Dreigiau a chymryd mantais. Serch hynny, mae’r tîm o ogledd Cymru yn aros ar y brig a bellach yn ddi guro mewn deuddeg gêm.
Gôl-geidwad Braintree, Nathan McDonald a oedd brysuraf yn yr hanner cyntaf. Bu rhaid iddo arbed ergyd o bellter gan Jay Harris hanner ffordd trwy’r hanner ac arbed ergyd gan yr un chwaraewr eto bum munud cyn yr egwyl. Cafodd Andy Morrel hanner cyfle hefyd ond saethodd heibio i’r postyn.
Ond bu rhaid i olwr Wrecsam, Joslain Mayebi hefyd aros yn effro er mwyn arbed ymdrech Andrew Yiadom yn hwyr yn yr hanner.
Roedd McDonald yn brysur eto wedi deg munud o’r ail hanner, yn arbed ergyd Nathaniel Knight-Percival y tro hwn. A bu rhaid i Mayebi arbed ymdrech arall gan Yiadom hanner ffordd trwy’r ail gyfnod hefyd.
Chwaraeodd Wrecsam yn erbyn deg dyn am y chwe munud olaf wedi i Asward Thomas weld ail gerdyn melyn a cherdyn coch, ac er i Danny Wright orfodi arbediad arall gan McDonald gyda thri munud yn weddill gorffen yn ddi sgôr a wnaeth hi.
Ni ellir cwyno gormod am ganlyniad cyfartal mewn unrhyw gêm oddi cartref ond efallai y bydd Andy Morrel ychydig bach yn siomedig fod ei dîm wedi methu manteisio wedi iddynt fwynhau digon o feddiant a chreu ambell gyfle hefyd.
Ond fydd y rheolwr ddim yn rhy siomedig gan fod y pwynt yn ddigon i gadw’r Dreigiau ar frig y Gyngres wedi i Fleetwood gael gêm gyfartal heddiw hefyd.