Joe Mason - Sgoriwr Caerdydd
Caerdydd 1–0 Nottingham Forrest
Mae rhediad gwych Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn parhau yn dilyn buddugoliaeth arall yn erbyn Nottingham Forrest yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw. Mae’r Adar Gleision yn ddi guro yn eu saith gêm ddiwethaf ar ôl curo o gôl i ddim heddiw.
Ychydig o gyfloedd a welwyd mewn hanner cyntaf di sgôr, saethodd Kenny Miller a Craig Conway dros y trawst i Gaerdydd ac arbedodd gôl-geidwad y tîm cartref, David Marshal ergyd Marcus Tudgay yn rhwydd.
Daeth cyfle gorau’r hanner i Aron Gunnarsson ychydig funudau cyn yr egwyl ond peniodd y chwaraewr o Wlad yr Iâ heibio i’r postyn.
Roedd hi’n hanner cyntaf clos ac arhosodd hi felly am hanner cyntaf yr ail hanner hefyd cyn i Gaerdydd sgorio unig gôl y gêm gydag 20 munud yn weddill. Roedd Joe Mason wedi dod i’r cae fel eilydd toc cyn yr awr a dim ond deg munud a gymerodd i greu argraff. Peniodd yr ymosodwr yn gryf ac yn gywir i gefn y rhwyd o 12 llath yn dilyn croesiad da Peter Wittingham o’r asgell dde, 1-0 i’r Adar Gleision.
Ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd er mawr ryddhad i ffyddloniaid Stadiwm Dinas Caerdydd. Daeth cyn chwaraewr Abertawe, Paul Anderson yn agos i unioni’r sgôr i Forrest ar ddau achlysur yn yr ugain munud olaf ond llwyddodd Caerdydd i ddal eu gafael ar y tri phwynt.
Mae’r tri phwynt hynny yn cadw Caerdydd yn y trydydd safle ac yn cadw’r pwysau ar West Ham yn yr ail safle wrth i’r tîm o Lundain herio Derby County mewn gêm hwyrach heno.