Ali Yassine (o glawr ei lyfr newydd)
Fe fydd un o wynebau cyfarwydd S4C sydd hefyd yn gyhoeddwr tîm pêl-droed Dinas Caerdydd yn lansio’i hunangofiant newydd yn stadiwm y ddinas y prynhawn yma.

Bydd Ali Yassine yn  arwyddo copïau o’i hunangofiant Was it something I said?  i ffans yr Adar Gleision ar eu ffordd i’r gêm gartref yn erbyn Nottingham Forest y prynhawn yma.

“Yn gyffredinol, dw i am i bobl i fwynhau y llyfr, fel dw innau yn mwynhau dilyn yr Adar Gleision,” meddai Ali Yassine, sy’n gyhoeddwr i’r Adar Gleision ers deng mlynedd bellach.

 “Mae’r llyfr wedi ei anelu at bobl sydd ddim yn darllen llawer ac rwy’n obeithiol bydd y llyfr yma yn rhywbeth tra wahanol i’r llyfrau eraill sydd ar gael. 

“Mae yna nifer o lyfrau wedi cael ei hysgrifennu gan cyn-chwaraewyr pêl-droed am eu hanesion ar y cae ac ati, felly cefais syniad o ddangos ochr arall i’r gêm o’n safbwynt personol.”

Ers i’r gŵr o dras Somali ac Eifftaidd o Gaerdydd ddysgu Cymraeg yn ei ugeiniau, mae wedi ymddangos yn rheolaidd ar S4C, ac mae eisoes wedi cyhoeddi hunangofiant Cymraeg.