Mae o leiaf un llongwr wedi boddi a phump yn dal ar goll yn y môr ar ôl i long suddo 20 milltir i’r gogledd-orllewin o benrhyn Llŷn.

Cafodd galwad frys am help ei hanfon allan o long cargo Swanland tua 2 o’r gloch y bore yma ar ôl i gorff y llong gracio.

Roedd wyth o bobl ar ei bwrdd.

 “Cafodd dau hofrennydd a dau fad achub eu hanfon yno,” meddai Jim Green o Wylwyr y Glannau Caergybi, yn gynharach heddiw. “Mae dau o bobl wedi cael eu hachub o’r dŵr ond rydan ni’n dal i chwilio am chwech arall.”

Cafodd un o’r chwech a oedd ar goll ei godi o’r môr yn ddiweddarach, ond cafwyd cadarnhad ei fod wedi marw.

Aed â’r ddau ddyn a gafodd eu hachub ynghynt mewn hofrennydd i orsaf yr Awyrlu yn y Fali, ac er nad oes cadarnhad swyddogol o’u cyflwr credir eu bod yn iawn.

“Rydan ni’n bryderus iawn am ddiogelwch yr aelodau eraill o’r criw,” meddai Jim Green. “Fe wyddon ni fod o leiaf rai ohonyn nhw’n gwisgo dillad trochi a bod ganddyn nhw oleuadau strobe, ond mae’r môr yn arw a pheryglus.”

Roedd y llong cargo 81 metr yn cludo 3000 tunnell o gerrig calch, a chredir ei bod hi wedi suddo bellach.

Cred Gwylwyr y Glannau mai’r gwyntoedd stormus yn ystod oriau mân y bore a achosodd y digwyddiad.