Mae’r ganolfan lenyddol Tŷ Newydd wedi gorfod canslo gweithdy mewn cynganeddu ar Twitter oherwydd diffyg diddordeb
Roedd y Prifardd Llion Jones i fod i gynnal sesiwn Trydar mewn trawiadau fel rhan o Ŵyl Gynganeddu’r Ganolfan. Gweithdy ymarferol oedd y sesiwn “yn cynnig arweiniad ar sut i drydar eich cynganeddion i gynulleidfa fyd-eang gan ddefnyddio llwyfan Twitter.”
Roedd Tŷ newydd wedi datgan y “bydd angen rhyw lun o grap ar y gynghanedd a chyfrifiaduron” i gymryd rhan.
“Roedd diffyg symud ar y tocynnau,” meddai llefarydd ar ran Tŷ Newydd cyn dweud bod “tocynnau yn mynd yn braf” ar gyfer gweddill y gweithdai.
“Bosibl ein bod wedi camu i’r cyfeiriad yma braidd yn rhy gynnar,” meddai. “Efallai bod angen i ni aros ryw flwyddyn arall.
“Bum mlynedd yn ôl – roedd Facebook er enghraifft yn rhywbeth yn arbennig ar gyfer pobl ifanc. Ond, erbyn rŵan, mae pobl o bob oedran yn ei ddefnyddio. O bosibl bod Twitter yn yr un cyfnod – y cyfnod dechreuol.”
Fe fydd Tŷ Newydd yn ystyried cynnal y gweithdy eto’r flwyddyn nesaf, meddai.
Mae’r Ŵyl Gynganeddu ymlaen y penwythos yma, pryd y bydd cymysgedd o sesiynau, darlithoedd a gweithdai, rhai o ddifrif ac eraill yn ysgafn.