Mae’r dyn tu ôl i’r wefan lle fathwyd y term ‘Sgymraeg’ am Gymraeg gwallus ar arwyddion cyhoeddus, yn dweud fod gan y llyfr newydd sy’n casglu’r holl enghreifftiau ynghyd rywbeth “digon ysgafn ar y wyneb, rywbeth dyfnach i’w ddweud am statws yr iaith” yng Nghymru.
Ar wefan Maes E y daeth y term ‘Sgymraeg’ i’r byd, ac ers hynny mae cylchgrawn Golwg wedi mabwysiadu’r term a chynnwys esiamplau wythnosol o arwyddion ffyrdd gwallus yn y golofn Jac Codi Baw.
“Mae Golwg wedi poblogeiddio’r syniad o Sgymraeg. Rwy’n credu bod ochr ddoniol iddo a hurt,” meddai Nic Dafis, sylfaenydd Maes E.
“Ond, rwy’n credu fod dicter hefyd. Mae pobl yn weld o’n warthus bod gymaint o gamgymeriadau esgeulus,” ychwanegodd Nic Dafis cyn dweud bod llawer o drafod Sgymraeg ar Maes E yn y gorffennol.
“Mae Sgymraeg yn dweud rhywbeth am statws yr iaith. Rydan ni’n dweud bod y ddwy iaith yn gyfartal. Ond, pan mae’n dod at godi arwydd – mae’n stori wahanol. Mae’n hala fi’n grac,” meddai. Ond, dywedodd hefyd bod “hiwmor” yn bwysig. “Mae’n bwysig nad ydyn ni’n colli’n pennau am y peth.
“Mae’n debyg y bydd yn mynd i hosan Nadolig llawer o bobl. Siwr y bydd yn boblogaidd – rhywbeth digon ysgafn ar y wyneb, ond mae rhywbeth dyfnach i’w ddweud am statws yr iaith.”
Fe ddechreuwyd casglu’r Sgymraegs gan Golwg ar ôl i ddarllenwyr ddechrau eu hanfon at golofn ddychanol Jac Codi Baw ar dudalennau’r cylchgrawn.
Ers hynny maen nhw wedi dod yn rhan boblogaidd o’r cylchgrawn a bellach maent i’w gweld ar y we wrth i bobl fynd ati i rannu esiamplau gwael maen nhw’n eu gweld ledled Cymru ar flickr a Twitter.
Mae rhai wedi cael sylw pellach ar raglenni newyddion a hyd yn oed y tu hwnt i Gymru, ac yn achos un Sgymraeg, daeth ceisiadau am wybodaeth o bapurau Llundain, y News at Ten a’r rhaglen ddychanol Have I Got News For You.
Sgymraeg, Y Lolfa, £4.95