Mae grŵp sy’n ymgyrchu dros ddyfodol Radio Ceredigion wedi penderfynu eu bod nhw’n mynd i herio Town and Country Broadcasting am y drwydded i gynnal gorsaf ddarlledu fasnachol yn y sir.

Neithiwr fe benderfynodd Cymdeithas Cyfeillion Radio Ceredigion yn unfrydol o blaid gwneud cais i’r rheoleiddiwr cyfryngau OFCOM am y drwydded fasnachol, sydd yn nwylo cwmni Town and Country Broadcasting ers Ebrill 2010.

 “Cafwyd trafodaeth dda iawn ynglŷn â’r ffordd ymlaen,” meddai aelod o bwyllgor y Cyfeillion, Geraint Davies.

 “Fe fyddwn ni’n bwrw ati nawr i wneud cais am y drwydded yn barod ar gyfer 1 Chwefror 2012.”

Rhaid i’r Cyfeillion gael eu cais i mewn erbyn mis Chwefror nesaf os ydyn nhw eisiau’r cyfle i gymryd y drwydded fasnachol ar gyfer Radio Ceredigion, sy’n dod yn rhydd ym mis Rhagfyr 2012.

Mae’r Cyfeillion, sef grŵp sydd wedi ei sefydlu ers bron i wyth mlynedd, wedi penderfynu gwneud cais am y drwydded oherwydd anniddigrwydd llawer gyda’r modd y mae darpariaeth Gymraeg yr orsaf wedi gostwng ers mis Ebrill diwethaf.

Mae Town and Country Broadcasting hefyd yn cynnal Radio Sir Gâr a Radio Sir Benfro, ac mae’r tair orsaf yn cael eu rhedeg o’r un ganolfan yn Arberth, Sir Benfro.

Ond dywedodd Geraint Daives wrth Golwg360 heddiw bod y Cyfeillion yn gobeithio dod â “perchnogaeth yr orsaf yn ôl i ddwylo pobol Ceredigion” wrth wneud cais am y drwydded gydag OFCOM.

 Bydd pwyllgor Cymdeithas Cyfeillion Radio Ceredigion nawr yn mynd ati i edrych ar wahanol fodelau o gyllido’r cynllun yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae disgwyl iddyn nhw adrodd yn ôl i’r grŵp llawn o fewn y mis.

 “Ni’n gobeithio’n fawr y bydd pobol Ceredigion yn barod i fod yn rhan o’r fenter gyffrous hon,” meddai Geraint Davies.

“Ni’n gobeithio gallwn ni roi presenoldeb i fudiadau, clybiau a chymdeithasau lleol ar yr orsaf,” meddai. “Fe fuodd lle i’r rhain ar yr orsaf yn y gorffennol, a gobeithio gallwn ni gael lle iddyn nhw eto.”

Mae criw o’r enw Radio Beca eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu ceisio am drwydded i sefydlu gorsaf radio gymunedol Gymraeg ei hiaith yn siroedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.