Mae S4C wedi cael ei beirniadu unwaith yn rhagor am beidio â rhoi digon o bwysigrwydd i’r Gymraeg wrth benodi staff.

Mewn hysbyseb am Swyddog Masnachol i’r Tîm Comisiynu, mae’r Sianel wedi nodi bod y “gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol” yn hytrach na “hanfodol”.

Yn ôl S4C, roedd angen lledu’r rhwyd oherwydd natur arbennig y swydd.

‘Codi cwestiynau’

Yn ôl Bethan Jenkins AC, mae’r hysbyseb yn codi cwestiynau mawr am y flaenoriaeth i’r Gymraeg o fewn y Sianel.

“Mae S4C i fod yn hwb ac yn ganolbwynt i hyrwyddo’r iaith Gymraeg,” meddai wrth Golwg 360. “Mae’n rhaid i sefydliadau Cymraeg roi esiampl i bobol.”

Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru y dylai’r “un polisi gael ei defnyddio ar draws y sefydliad” o safbwynt gofynion yr iaith.

“Bydden i’n hoffi gweld S4C yn edrych ar sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn ehangach o fewn y Sianel,” meddai Bethan Jenkins.

“Ond rhaid cwestiynu beth yw eu blaenoriaethau nhw os nad ydyn nhw’n rhoi’r Gymraeg ar frig yr agenda.”

Swydd i elwa ar raglenni

Mae’r swydd sy’n cael ei hysbysebu gan S4C – Swyddog Masnachol i’r Tîm Comisiynu – yn gofyn am rywun fydd yn gallu helpu wrth “adnabod cyfleoedd masnachol,” a gweithio “mewn partneriaeth gyda’r Golygyddion Cynnwys, yn trafod a gwireddu potensial elfennau masnachol ein cynyrchiadau”.

Mae gofynion y swydd yn dweud bod y gallu i “gydweithio’n agos ac o fewn tîm yn hanfodol yn ogystal â gwybodaeth drylwyr o strategaethau a chynnwys S4C,” ond mai “manteisiol” fyddai’r gallu i siarad Cymraeg.

Mae S4C hefyd yn hysbysebu swydd Cydlynydd Cynnwys Digidol ar hyn o bryd – sydd yn dweud bod y “gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol”.

Ymateb y Sianel

Wrth ymateb, dywedodd y Sianel fod yr hysbyseb am swydd y Swyddog Masnachol yn adlewyrchu’r ffaith fod “y sgiliau angenrheidiol mor arbenigol fod yn rhaid ehangu’r maes ymgeiswyr”.