Lori Raean
Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi dweud eu bod nhw wedi paratoi ar gyfer “y gaeaf gwaethaf posib” eleni.

Er bod proffwydi’r tywydd yn darogan gaeaf cynhesach na’r arfer eleni, dywedodd y Gweinidog fod angen i Gymru baratoi ar gyfer y posibilrwydd o dywydd garw.

Dioddefodd Cymru dywydd garw iawn yn ystod y ddau aeaf diwethaf, gyda chyfuniad o dymheredd isel iawn a chawodydd eira trwm yn amharu ar wasanaethau ledled y wlad.

Dywedodd Carl Sargeant fod ei gynlluniau yn seiliedig ar y sefyllfa waethaf bosib er mwyn sicrhau na fydd gormod o darfu’n digwydd i wasanaethau yn ystod tywydd difrifol o’r fath.

Bydd Cymru’n dechrau’r tymor gyda stociau uwch o halen nag a welwyd erioed o’r blaen, meddai.

“Rydym wedi bod yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gasglu manylion am lefelau’r halen a ddefnyddiwyd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru dros y chwe gaeaf diwethaf,” meddai.

“Ar ddechrau’r tymor pennwyd ffigur targed y stociau halen ar gyfer pob awdurdod lleol fel un waith a hanner eu defnydd o halen ar gyfartaledd dros y cyfnod hwnnw.

“Er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd cael gafael ar y stociau halen ar draws Cymru, caiff stociau wrth gefn eu datblygu a’u lleoli yn y Gogledd, y Canolbarth a’r De, ynghyd â stociau ychwanegol yn ysguborion yr M4.”

Traffig Cymru

Bydd gwefan Traffig Cymru yn cael ei ail-lansio’r wythnos hon ar ei newydd wedd, ac yn cynnwys dolenni at wefannau awdurdodau lleol er mwyn cael gwybodaeth leol, dolenni at ddarparwyr gwybodaeth am y tywydd, datblygiad parhaus o ardal sy’n cynnig gwybodaeth benodol ar gyfer cludwyr nwyddau, a thudalen yn rhoi canllawiau am yrru yn y gaeaf.

Cyfeiriodd y Gweinidog at nifer o ymgyrchoedd sydd wedi’u trefnu i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau iechyd, gan gynnwys Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn, Dewis Doeth ac ymgyrch frechu yn erbyn y ffliw.

Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar y cyd yn rhoi cyngor i ysgolion ar p’un a ddylid aros ar agor neu gau yn ystod tywydd garw iawn.

Dywedodd y Gweinidog y bydd cynllun tlodi tanwydd ‘Nyth’ Llywodraeth Cymru’n hefyd o gymorth wrth gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn ac yn lleihau eu biliau tanwydd.

“Er gwaethaf holl ymdrechion diflino’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau’r gaeaf, yn ystod tywydd garw gall yr amodau teithio mewn rhai ardaloedd fod yn anodd o hyd,” meddai Carl Sargeant.

“Nid oes modd gwarantu y bydd y ffyrdd yn rhydd o iâ, a bydd angen cymryd gofal. Mae tudalennau’r gaeaf ar wefan Llywodraeth Cymru’n rhoi gwybodaeth am ragolygon y tywydd, trafnidiaeth, cau ysgolion, gwasanaethau lleol ac iechyd. Caiff y rhain eu diweddaru yn ôl yr angen drwy gydol y gaeaf.”