Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio’r Llywodraeth Lafur y caiff ei newidiadau arfaethedig i fwrsariaethau nyrsys effeithiau “difrifol” ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’r newidiadau, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths ym mis Hydref, yn golygu y caiff y fwrsariaeth gyffredinol gyfredol o £6,701 ei thorri i fod yn grant o £1,000 gyda bwrsariaeth â phrawf modd o hyd at £4,395 ar gael i’r sawl sy’n gymwys.

Yn ol Plaid Cymru, bydd “cannoedd” o fyfyrwyr nyrsio yn colli cymorth ariannol ar gyfer eu hastudiaethau – a bydd perygl o greu gostyngiad difrifol yn nifer y myfyrwyr nyrsio.

‘Hyfforddi’

“Wrth i’r GIG ddod dan bwysau cynyddol oherwydd cyllidebau sy’n crebachu’n gyson, mae’n bwysig ein bod yn annog pobl ddawnus i hyfforddi fel nyrsys er mwyn cael y gofal gorau oll i gleifion,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones.

“Bydd y newidiadau hyn i’r cynllun bwrsariaeth yn troi pobl ymaith oddi wrth hyfforddi fel nyrsys. Mae hyn yn arbennig o wir mewn maes lle mae myfyrwyr yn fwy tebygol o fod yn hŷn na myfyrwyr eraill, ac yn aml gyda chyfrifoldebau teuluol neu ofal plant. Allwn ni ddim fforddio prisio ymgeiswyr dawnus allan o’r proffesiwn pwysig hwn,” meddai.

Dywedodd fod myfyrwyr nyrsio yn gwneud “cyfraniad hollbwysig” i gyflwyno gwasanaethau, gan eu bod yn treulio 50% o’u hamser ar leoliadau di-dâl yn gweithio i’r GIG, ac felly yn rhoi gwerth am arian i’r trethdalwr. Twyll o arbed yw torri eu hunig ddull o gael incwm.

‘Pryder’

“Mae’n fater o bryder fod y llywodraeth Lafur wedi gwneud y cyhoeddiad hwn dri mis yn unig wedi i lywodraeth y DG gyhoeddi eu cynlluniau i dorri ar fwrsariaethau,” meddai Elin Jones.

“Mae’n fater o bryder mwy fyth i hyn ddigwydd heb unrhyw ymgynghori gyda’r rhanddeiliaid perthnasol, ac nad oedd yn bolisi a amlinellwyd yn rhaglen lywodraethu Llafur. Mae Llafur yn dilyn arweiniad San Steffan yn ddall, er mwyn gwneud elw yn y tymor byr. Cynllun sigledig ei seiliau yw hwn ac ni wnaiff ond gwanhau’r GIG yng Nghymru.”