Maes awyr Caerdydd
Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn galw am ragor o gefnogaeth i Faes Awyr Ryngwladol Caerdydd ac adolygiad o fynediad cyhoeddus i’r safle.

Yn ystod y ddadl, fe fydd y grŵp yn pwysleisio potensial y maes awyr i gystadlu gyda Bryste gan roi hwb i dwristiaeth a menter yng Nghymru.

Fe fydd Byron Davies AC yn gofyn am fwy o gefnogaeth ac arweiniad oddi wrth y Llywodraeth i ehangu llwybrau teithio’r maes awyr a bydd yn son am lunio rhaglen marchnata i atynnu’r sector hedfan.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod ffigyrau diweddar yn dangos cwymp yn nifer  teithwyr Maes Awyr Caerdydd – yn 2011 fe wnaeth bmibaby stopio defnyddio’r safle.

Er gwaethaf hyn, mae disgwyl i Byron Davies AC ddweud bod modd i’r maes awyr helpu rhoi hwb i economi Cymru.

Nid yw’r Llywodraeth Lafur yn cynnal y math o drafodaethau sy’n mynd i helpu newid sefyllfa’r maes awyr, meddai’r AC.

“…Mae angen i weinidogion eistedd i lawr gyda’r penaethiaid, canfod y problemau a llunio strategaeth glir i fynd i’r afael a nhw.

“Mae’n rhaid i’r ffocws fod ar ddiogelu taith uniongyrchol i’r Unol Daleithiau ac ehangu’r cysylltiadau i wledydd yn Ewrop.”

Mae disgwyl iddo ddweud hefyd y dylai arian gael ei wario’n effeithiol ac y dylid adolygu ac ailasesu  gwariant cronfa Ewropeaidd ar drafnidiaeth yng Nghymru.