Am y tro cyntaf mewn ugain mlynedd, mae nifer y bobl  sy’n marw adeg y gaeaf yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.

Mae ffigyrau’n dangos fod  1,900 yn fwy o farwolaethau yng Nghymru yn ystod pedwar mis y gaeaf yn 2010/11 nag yn ystod y tymhorau eraill – mae hyn yn gynnydd o 3% yn  nifer y marwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf yng Nghymru o’u cymharu â’r llynedd.

Yn ôl Llefarydd Cyfiawnder Cymdeithasol y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Peter Black, mae hyn yn dystiolaeth nad yw’r “mesurau i daclo tlodi tanwydd yn agos at fod yn hanner digon.”

Yn ôl Peter Black, mae pobol yn “methu dod i ben â thalu’r biliau tanwydd cynyddol, a dydyn nhw ddim yn cael y gefnogaeth sydd wir ei angen arnyn nhw gan y llywodraeth.”

Mae elusennau arbed ynni yn cytuno bod byw mewn cartrefi sydd heb eu cynhesu’n iawn yn gallu arwain at nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys gwanhau imiwnedd pobol, gwneud cyflyrau fel asthma yn waeth, effeithio pwysedd gwaed a chynyddu’r risg o strôc neu drawiad ar y galon, ac yn gallu arwain at hypothermia.

Dywedodd llefarydd ar ran National Energy Action Cymru wrth Golwg 360 fod yna “gysylltiad yn bodoli rhwng amharodrwydd pobol i gynhesu eu tai a marwolaethau yn ystod y gaeaf, ond mae hynny’n aml yn rhan o gyfuniad o ffactorau, er enghraifft os yw’r tŷ’n oer neu heb ei insiwleiddio’n effeithlon.

“Ond mae’n arbennig o wir os yw’r tywydd yn oer, a bod pobol yn pryderu dros ddefnyddio’u tanwydd i gynhesu’r tŷ oherwydd pris tanwydd.”