Carwyn Jones
Mae Llafur Cymru wedi galw am unrhyw newid i’r system etholiadol gael ei drafod â phobol Cymru heddiw.
Yn ôl Llafur Cymru, mae’n rhaid i Gymru gael llais mewn unrhyw newid yn y system etholaethol, yn hytrach na bod y penderfyniad yn cael ei drafod yn San Steffan.
Daw’r sylwadau wrth i Lafur daro’n ôl yn erbyn honiadau’r Gymdeithas Newid Etholiadol heddiw, yn honni mai nhw fyddai’n elwa petai’r system etholiadol yng Nghymru yn cael ei newid i system cyntaf-i’r-felin.
Yn ôl Llafur Cymru, mae’r adroddiad gan y Gymdeithas Newid Etholiadol (CNE) heddiw yn “ffeithiol anghywir ar bron bob lefel, ac yn cam-gynrychioli safbwynt Llafur Cymru ar y mater yn ddifrifol.”
Wrth gyhoeddi’r adroddiad heddiw, dywedodd Cyfarwyddwr Cymru’r Gymdeithas Newid Etholiadol, Steve Brooks, fod “ein hymchwil yn dangos y byddai Llafur wedi ennill bron i 70% o seddi’r Cynulliad pe byddai etholiad diwethaf wedi cael ei gynnal drwy’r drefn Cyntaf-i’r-Felin Dau Aelod. Mae hyn er i Lafur ennill ond tua 40% o’r bleidlais.”
Yn ôl yr adroddiad, byddai hynny’n “ddrwg i ddemocratiaeth ac yn ddrwg i ddatganoli.”
Fe fyddai newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn y modd yma “yn gwadu llais a dewis go iawn i filoedd ar filoedd o bobol Cymru” ac yn golygu bod “Llafur yn elwa ar draul pawb arall”, yn ôl yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw.
Llafur ‘ddim wedi cefnogi’r newid’
Ond mae Llafur Cymru yn dweud nad ydyn nhw wedi rhoi cefnogaeth i’r newid sydd wedi cael ei awgrymu gan San Steffan.
“Mae ein safbwynt ni yn glir – does gan y Toriaid yn San Steffan ddim mandad ar gyfer newid y system etholiadol yng Nghymru.”
Daw’r sylwadau wrth iddi ddod i’r amlwg fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog David Cameron yr wythnos diwethaf yn galw arno i beidio ag ymyrryd â system etholaethol Cymru heb ymgynghori â phobol Cymru yn gyntaf.
Mae Llafur Cymru wedi beirniadu’r Gymdeithas Newid Etholiadol heddiw am ganolbwyntio ar fudd y newidiadau i’r Blaid Lafur, yn hytrach na chefnogi galwadau’r blaid am ymgynghori â phobol Cymru ynglŷn â’r newid.
“Mae’n siom mawr i ni fod y CNE wedi penderfynu cyhoeddi’r datganiad rhyfedd hwn sydd mor amlwg o anwir, ac sydd â gogwydd pryderus iawn, yn hytrach na chefnogi galwadau ar bobol Cymru i gael eu holi o flaen llaw ar unrhyw newid i’w system pleidleisio.”