Mae un achos arall o E.coli wedi’i ganfod yng Ngogledd Orllewin Cymru gan ddod a nifer yr achosion sy’n gysylltiedig â meithrinfa Tir na n-Og ym Mangor i dri.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a thimau Iechyd Amgylcheddol cynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn parhau i gynnig profion i staff y feithrinfa ac eraill sydd wedi’u heffeithio neu’n wynebu risg o gael eu heffeithio.
Maen nhw’n hysbysu rhieni o’r diweddaraf ac wedi sefydlu tîm arbenigol i fynd i’r afael ag achos posibl y digwyddiad.
Ddydd Gwener, fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatgan eu bod yn ymchwilio i ddau achos pendant o E.coli O157 yng Ngogledd Cymru. Cafodd plentyn sy’n mynychu meithrinfa ym Mangor ddiagnosis o E. coli O157 ac fe gafwyd ail achos mewn oedolyn a chanddo gysylltiadau posibl â’r feithrinfa.
“Mewn cydweithrediad â’n cydweithwyr yn yr awdurdod lleol rydym yn parhau ag ymchwiliadau,” meddai Dr Chris Whiteside, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd hefyd bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ysgrifennu i holl feithrinfeydd yr ardal i bwysleisio pwysigrwydd arferion hylendid a glanweithdra da.
Maen nhw hefyd yn gofyn i staff fod yn wyliadwrus o blant â dolur rhydd. Ni ddylai rhieni â phlant gyda dolur rhydd anfon eu plant yn ôl i’r feithrinfa tan mae’r symptomau wedi cilio ers dau ddiwrnod.
Gwenwyn bwyd
Eisoes, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgyrch newydd heddiw i atgoffa’r cyhoedd i olchi llysiau amrwd er mwyn lleihau’r perygl o gael gwenwyn bwyd.
Mae’r ymgyrch yn dilyn yr achosion o E.coli ym Mhrydain a thramor eleni, gan gynnwys un a oedd yn gysylltiedig â phridd ar lysiau amrwd ac un arall a achoswyd gan had wedi’u hegino a oedd wedi’u halogi.
Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar atgyfnerthu cyngor diogelwch bwyd presennol ar storio, trin a choginio bwyd, gan gynnwys llysiau amrwd.
“Mae ein hymgyrchoedd blaenorol wedi canolbwyntio ar y peryglon sy’n gysylltiedig â pharatoi cig amrwd a dofednod. Fodd bynnag, dangosodd achosion diweddar o E. coli a oedd yn gysylltiedig â llysiau a had wedi’u hegino bod trin cynnyrch ffres, yn arbennig os yw’n cario gronynnau o bridd, yn gallu lledaenu bacteria niweidiol,” meddai Andrew Wadge, Prif Wyddonydd yr ASB.
Mae’r Asiantaeth yn gofyn i bobl wneud y canlynol –
- Golchi eich dwylo yn iawn cyn ac ar ôl trin bwyd amrwd, gan gynnwys llysiau
- Cadw bwyd amrwd, gan gynnwys llysiau, ar wahân i fwyd i sy’n barod i’w fwyta
- Defnyddio gwahanol fyrddau torri a chyllyll ac ati ar gyfer bwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta, neu eu golchi’n iawn ar ôl eu defnyddio bob tro
- Oni bai bod y deunydd pecynnu o amgylch y llysiau yn nodi eu bod yn barod i’w bwyta (ready-to-eat), mae gofyn i chi eu golchi, eu plicio neu eu coginio cyn eu bwyta.