Cafodd dyn 23 oed o Gasnewydd ei arestio neithiwr ar amheuaeth o dreisio a cheisio treisio.

Mae’n dilyn ymchwiliad gan yr heddlu trafnidiaeth i ddau achos o ymosod yn rhywiol a cheisio ymosod yn rhywiol ar ddwy wraig ar lwybr sy’n rhedeg o dan orsaf drenau Casnewydd ar ddydd Sul, 20 Dachwedd.

Mae’r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa ac yn cael ei holi gan yr heddlu.