Mae’r heddlu yn Llanilltud Fawr yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn oedrannus gael ei daro gan gar.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ddydd Iau, 10 Dachwedd am 5.20pm ar Ffordd Llan ym Marcroes.

Roedd y dyn 70 oed yn cerdded ar hyd y ffordd pan basiodd car y tu ôl iddo gan achosi iddo ddisgyn. Cafodd ei gludo i’r ysbyty ac mae’n debyg ei fod wedi torri ei glun.

Dylai unrhywun sydd â  gwybodaeth am  y ddamwain ffonio Colin Malone yng ngorsaf yr heddlu yn Llanilltud Fawr ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.