Mae ymgyrchwyr sy’n galw am wella’r ddarpariaeth tren rhwng Aberystwyth a’r Amwythig yn dweud eu bod nhw gam yn agosach at gael cefnogaeth y Cynulliad i’w cynlluniau.
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambria wedi bod yn lobio aelodau Cynulliad Cymru a San Steffan dros yr wythnosau diwethaf er mwyn ceisio cael gwasanaeth tren mwy cyson ar hyd y lein, yn hytrach na’r wasanaeth bob dwy awr sydd ar hyn o bryd.
Mae’r Bartneriaeth yn gobeithio y bydd cyhoeddiad sydd i gael ei wneud gan y Cynulliad fis Rhagfyr yn golygu creu gwasanaeth bob awr yn ystod yr oriau brig rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.
Yn ôl Swyddog Datblygu’r Bartneriaeth, Rhydian Mason, mae gwella’r gwasanaeth hyn yn un pwysig iawn i Aberystwyth a’r gorllewin, er mwyn cysylltu Cymru â gweddill y Deyrnas Unedig.
“Rydw i wedi siarad yn bersonol gyda Carl Sargeant, Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau yn ddiweddar iawn, ac mi soniodd wrtha’i fod yna newyddion i ni a fyddai’n cael ei ddatgelu’n swyddogol ymhen yr wythnosau nesa’,” meddai Rhydian Mason.
“Ar ôl trafod hyn gydag Aelodau Cynulliad eraill sydd wedi bod ynghlwm â’r trafodaethau, mae arwyddion y bydd y datganiad yn newyddion da i’r rhai hynny ohonom sydd am weld datblygiad yn y ddarpariaeth ar gyfer lein y Cambrian.”
‘Hwb i’r economi’
Yn ôl Rhydian Mason, fe fyddai gwella’r cysylltiadau rhwng Aberystwyth a’r Amwythig yn hwb mawr i fusnesau a swyddi yng ngorllewin Cymru, ac yn help mawr i’r economi.
“Mi fuasai gwasanaeth bob awr yn dod a nifer o gyfleoedd i fusnes, hamdden, a chymudo yn yr ardal, ac wrth gwrs, mi fuasai’r gwasanaeth yma hefyd o fudd i lein yr arfordir o Fachynlleth i Bwllheli.
Mae’r ymgyrch eisoes wedi denu cefnogaeth yr Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, sy’n credu y byddai gwella’r cysylltiadau tren yn hwb mawr i’r economi ar hyd y lein.
Bu’r Aelod Cynulliad yn cwrdd â Carl Saegeant fis diwethaf er mwyn trafod y mater, a dywedodd wrth Golwg 360 ei fod wedi cael ymateb “cadarnhaol iawn” i’r syniad o gynyddu’r gwasanaeth tren.
‘Dyhead nifer’
Un arall sy’n cefnogi’r galwadau yw Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies.
“Mae gwasanaeth bob awr wedi bod yn ddyhead i ddefnyddwyr rheilffordd y Cambria ers nifer o flynyddoedd,” meddai Glyn Davies.
“Mi fuasai’n dod â phob math o fuddion i’r ardal yn gyfan gwbl. Mi fuasai mwy o drenau i’r ardal yn hwb sylweddol i’r diwydiant twristiaeth, sy’n rhan bwysig o’n heconomi i ni. Mae’r trên yn fodd cyfleus ac effeithlon i deithio, ac mae’r buddion o bob math i’r brif lein ac i lein yr arfordir yn eang.”
Proses hir
Ond mae Rhydian Mason yn rhybuddio nad oes disgwyl newid cyflym ar y cledrau, hyd yn oed os yw Carl Sargeant yn cefnogi eu galwadau yn ei gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.
“Mae gwasanaeth o’r fath yn llwyr ddibynnol ar benderfyniad y Cynulliad ym mis Rhagfyr,” dywedodd Rhydian Mason. Ac unwaith i ni glywed y datganiad, mi fydd angen i Drenau Arriva Cymru roi’r trefniadau priodol yn eu lle – gall hyn olygu darganfod mwy o staff i redeg y trenau, yr angen am fwy o goetsiau, yn ogystal â threfnu’r gwasanaethau ychwanegol i’r amserlen genedlaethol.”
Mae disgwyl i Carl Sargeant wneud ei gyhoeddiad ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn gynnar ym mis Rhagfyr eleni.