Y Prifardd Ceri Wyn Jones Llun: Emyr Rhys Williams
Mae Meuryn newydd y Talwrn eisiau “meithrin to o dalyrnwyr a gwrandawyr newydd” meddai wrth Golwg360 heddiw.

Dywedodd y Prifardd Ceri Wyn Jones mai un o’r heriau fydd “meithrin to o dalyrnwyr a gwrandawyr newydd, ynghyd â sicrhau bod y selogion mor ganolog ag erioed i’r arlwy a’r mwynhad.”

Ei brif obaith yw y  “bydd y beirdd yn para’r un mor gynhyrchiol â’r gwrandawyr yr un mor ffyddlon.”

“Mae angen cefnogaeth a chynhaliaeth ar feirdd, waeth beth eu profiad a’u cyrhaeddiad, ac mae angen sbardun. Ond mae angen ambell air diffuant o feirniadaeth adeiladol. Eto, drwy’r cwbwl, mae angen cofio taw rhaglen adloniant yw’r Talwrn – ac yn hynny o beth, rwy hefyd am sicrhau bod yr ymdeimlad o hwyl ac agosatrwydd yn para,” meddai.

‘Trysor cenedlaethol’

Dywedodd fod “dilyn ôl troed trysor cenedlaethol yn her, wrth reswm.”

“Mae’r swydd yn un ddigon ymestynnol heb y pwysau hynny, ond mater o dorchi llewys fydd hi i fi a mynd ati i fod, yn ôl cyngor Gerallt ei hun i mi, yn fi fy hun. A chan mod i wedi bod yn derbyn ei gyngor ers ugain mlynedd fel talyrnwr, go brin mod i’n mynd i stopio nawr! Mae’n her arswydus a chyffrous,” meddai.

Mae’n dweud mai “Gerallt oedd y talwrn i nifer o wrandawyr” ac yn cyfaddef iddo fod yn “ysbrydoliaeth” iddo ef “o ran ei farddoniaeth ac o ran ei feurynna.”

“Fe dystiais i nid yn unig i dreiddgarwch ei feirniadaethau, ond hefyd i’w ddawn i drin cynulleidfa a rheoli rhaglen, heb sôn am ei hiwmor ffraeth,” meddai Ceri Wyn Jones.

Wrth drafod newidiadau posibl i’r Talwrn, dywedodd y prifardd fod peryg “ymyrryd yn ormodol â fformat mor llwyddiannus ag un y talwrn” ond ar yr un llaw mae’n cyfaddef bod  “parhad yn ddibynnol ar ddatblygiad”.

Dywedodd fod ganddo “rai syniadau am ambell dasg newydd” yr hoffwn arbrofi â nhw –  “dim byd yn rhy radical ond yn hytrach modd i annog awen y beirdd i grwydro i gyfeiriadau gwahanol.”