Dylan Thomas
Mae Prifysgol Cymru yn gobeithio diogelu dyfodol Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe o fewn y misoedd nesaf.
Fe fydd cabinet cyngor y ddinas yn penderfynu fis nesaf a fydd y fenter ar y cyd rhyngddyn nhw a’r brifysgol yn mynd rhagddo.
Petai’r cynllun yn cael sêl bendith y cyngor, fe fyddai Arddangosfa Dylan Thomas yn aros ar y safle yn ardal forwrol Abertawe.
Cafodd y ganolfan ei agor gan y cyn-Arlywydd Jimmy Carter yn 1995 ond daeth i’r amlwg flwyddyn yn ôl y gallai gau ei drysau.
Petai’r cynllun yn mynd rhagddo byddai’r adeilad hefyd yn gartref i Wobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru. Y wobr £30,000 yw’r mwyaf o’i fath yn y byd i ysgrifenwyr ifanc.
Mae yna hefyd gynlluniau i symud Cynllun Addysg Gwobr Dylan Thomas i’r ganolfan.
Ond fe fyddai’r adeilad yn cael ei ddefnyddio yn bennaf gan gwmanu creadigol. Cyngor Abertawe fydd â chyfrifoldeb am yr arddangosfa o hyd.
Dywedodd y cyngor y byddai rhai o staff y ganolfan yn parhau i weithio yno, ond bydd rhaid i dros 20 arall wneud cais am swyddi eraill o fewn y cyngor.
Mae disgwyl y bydd Prifysgol Cymru yn cymryd yr awenau yn y flwyddyn newydd, medden nhw.
“Mae’n amser anodd yn economaidd a rhaid canolbwyntio’r arian sydd gyda ni ar y gwasanaethau rheng flaen, hanfodol,” meddai’r Cynghorydd Graham Thomas, yr aelod dros ddiwylliant ar gabinet y cyngor.
“Fe fydd y cynllun ar y cyd yn sicrhau fod dyfodol y ganolfan yn saff, ac ein bod ni’n parhau i ddathlu etifeddiaeth Dylan yn y ddinas oedd yn gartref iddo.
“Mae hynny’n hollbwysig wrth i ni baratoi ar gyfer canmlwyddiant Dylan yn 2014.”