Mae llai na phythefnos ar ôl nes bydd enillydd Fferm Ffactor 2011 yn cael ei gyhoeddi ar S4C.

Ar ôl saith wythnos o gystadlu, mae’r 10 cystadleuydd gwreiddiol lawr i dri, a’r rheiny fydd yn cwffio am y teitl ar nos Fercher, 30 Tachwedd.

Ond mae hi mor anodd ag erioed darogan pwy fydd yn mynd â hi eleni, yn ôl y beirniad a’r arbenigwr amaeth y rhaglen.

“Fferm Ffactor 2011 yw’r gystadleuaeth agosa’ erioed ers iddi ddechrau yn 2009,” meddai Wynne Jones, sydd bellach yn byw yn Aberystwyth.

“Mae’r tri yn y ffeinal wedi datblygu a thyfu fel pobol wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen, gan ddangos yr awch, y cywirdeb a’r hyder wrth daclo tasgau. Fe fydd hi’n anodd dros ben i ni benderfynu ar enillydd.”

Y tri sydd yn y rownd derfynol yw Sam Jones o Roshill, Sir Benfro, sydd newydd raddio o Goleg Harper Adams, a Malcom Davies, sy’n ffermwr gwartheg godro yn Ninas, ger Pwllheli, ac Aled Roberts, o Lanrhaeadr ym Mochnant, sy’n rheolwr fferm ger Wrecsam.

“Mae gan y tri gryfderau gwahanol iawn,” meddai Wynne Jones, sy’n gyn-brifathro ar goleg enwog Harper Adams yn Swydd Amwythig.  “Mae Sam wedi dangos nad ydy bod yn ifanc yn anfantais gan ei fod o’n gallu dysgu’n sydyn.

“Mae Malcolm yn llawn awch a brwdfrydedd ac yn teimlo balchder o gael cynrychioli Pen Llŷn, tra bod Aled yn solet iawn, ac fel ffarmwr defaid a bîff mae ganddo gefndir a phrofiad eang.”

Mae Wynne Jones hefyd wedi mwynhau gweithio gyda’i gyd-feirniad, Aled Rees, cyn enillydd Fferm Ffactor, ac olynydd Dai Jones, Llanilar, ar y panel beirniaid.

“Mae Aled yn gwybod yn hollol sut i ennill cystadleuaeth o’r fath yma – ac oherwydd hynny, mae’n fodlon dweud yn blwmp ac yn blaen wrth y cystadleuwyr sut y gallan nhw wella. Dwi’n fwy tawel fy meirniadaeth efallai ond rhyngom ni mae’r balans wedi gweithio’n dda!”

Yr enillydd eleni fydd y trydydd i gipio gwobr Fferm Ffactor, a’r wobr fawr o 4x$ Isuzu Rodeo Denver, wedi i Aled Rees ddod i’r brig yn 2009, a Teifi Jenkins ddod yn fuddugol y llynedd.

Bydd Daloni Metcalfe yn cyflwyno’r rownd derfynol o Blasty Glynllifon ger Caernarfon ar 30 Tachwedd, lle bydd Wynne Jones ac Aled Rees yn dewis yr enillydd.