Alan Llwyd
Doedd “dim modd celu’r gwir” am rywioldeb Kate Roberts, meddai awdur y cofiant iddi sy’n cael ei lansio heddiw.

Mae’r dystiolaeth i’w gweld yn llythyrau Kate Roberts at ei gŵr Morris pan oedden nhw’n dechrau canlyn ei gilydd yn 1926, yn ôl Alan Llwyd.

Mewn un llythyr mae’r awdures yn disgrifio cusanu gwraig cigydd fel hyn: ‘Nid oedd dim a roes fwy o bleser imi’.

Roedd hi wedi bod yn aros gyda’r cigydd a’i wraig ym Mhontardawe ar y pryd, ac yn ei gofiant mae Alan Llwyd yn dyfynnu ei disgrifiad o’r achlysur:

‘Yr oedd gwraig y cigydd lle’r arhoswn yn un o’r merched harddaf y disgynnodd fy llygaid arni erioed. Dynes lled dal, heb fod yn rhy dew nac yn rhy deneu, gwallt gwineu – real chestnut a thuedd at donnau ynddo. Croen fel alabaster a’r gwddf harddaf a welais erioed – llygaid heb fod yn rhy brydferth ond yn garedig. Yr oedd yn hynod gartrefol ei ffordd – Cymraes iawn. Bore trannoeth, hebryngai’r mab fi mewn cerbyd i Gastellnedd – cychwyn tua 7.15 a.m. a hithau’n oer. Mynnodd y wraig roi clustog o’r ty odanaf, a lapiodd rug am fy nhraed, rug arall am fy nghorff, a rhoes glamp o gusan ar fy ngwefus. Nid oedd dim a roes fwy o bleser imi.’

Ac yn ôl Alan Llwyd mae tystiolaeth mewn llythyrau at bobol eraill bod Kate Roberts yn ddeurywiol.

“Mae yna awgrymiadau mewn llythyrau at Saunders Lewis ac yn sicr mae awgrymiadau yn ei straeon hi. Roedd Kate yn troi ei bywyd hi yn ffuglen – ond dyw hynny ddim digon o dystiolaeth i mi,” eglura Alan Llwyd.  

“Mae’n amlwg ei bod wedi trafod y peth gyda Morris pan wnaethon nhw gwrdd ei gilydd yn Ysgol Haf Machynlleth 1926. Roedd y ddau wedi dechrau canlyn ac ymddiried yn ei gilydd ac mae’n amlwg eu bod nhw’n deall ei gilydd o’r cychwyn cyntaf. O’r cychwyn cyntaf – yn fuan iawn ar ôl dechrau canlyn ei gilydd, mae Kate yn ysgrifennu llythyrau at Morris ac yn fano mae’r cyffesiad.”

Dywedodd Alan Llwyd ei fod yn gwybod y byddai trafodaeth am rywioldeb Kate Roberts yn bwnc llosg – ond iddo ef, dim on “ffaith” ydyw. “Hynny ydy, mae’n bwysig iawn i gofiannydd achos mae’n adlewyrchu ar fywyd Kate, bywyd priodasol Kate a Morris ac ar ei gwaith hi. Doeddwn i’n synnu dim. Jest ffaith ydi o. Does gen i ddim hawl i gladdu ffeithiau.”

‘Gwneud cymwynas’

“Doeddwn i ddim yn gallu claddu’r dystiolaeth. Mi faswn i’n gofiannydd gwael iawn a chelwyddog ac ar ben hynny, dw i’n meddwl ei bod wedi gwneud cymwynas â hi oherwydd rhan enfawr o broblem Kate oedd ei boed hi bron â marw eisiau gadael i bobol wybod hyn,” meddai cyn datgelu bod Kate Roberts wedi sgwennu mewn llythyr at Morris ei bod wedi cael llond bol o fyw bywyd parchus a “thwyllodrus”.

Mae llawer yn credu bod ei gŵr yn hoyw.

 “Yn Morris, roedd gan Kate enaid hoff gytun,” meddai Alan Llwyd.

“Roedd ganddi rywun all ei deall hi. Dydw i ddim yn credu bod dadl am y peth. Os ydy hi’n credu ar ôl i fenyw ei chusanu ar ei gwefus nad oes dim wedi rhoi mwy o bleser iddi mewn bywyd – mae’n gyffesiad hollol agored. Ond, mae mwy na hynny hyd yn oed – roedd Saunders Lewis yn gwybod, does dim amheuaeth gen i.

“Yn syth ar ôl cwrdd â Morris ac ymddired ei chyfrinachau ynddo, mae’n ysgrifennu stori o’r enw ‘Nadolig – lle mae’r wraig yn gorfod dewis rhwng dynes arall neu ddyn, sef deurywioldeb, ac mae’n dewis y dyn – sef stori Kate eto. Ysgrifennodd hon yn union yr un flwyddyn.”

‘Gosod y gath i blith y colomennod’

Mae Alan Llwyd yn disgrifio Kate Roberts fel “eicon”.

“Roeddwn i’n gwybod beth ro’n i’n ei wneud yn gosod y gath i blith y colomennod. Ond, doedd dim modd celu’r gwir. Os dw i’n celu’r gwir, mae’n awgrymu mod i’n meddwl bod rhywbeth o’i le ar y gwir. Fyddwn i byth wedi’i awgrymu o heb dystiolaeth,” meddai.

Dywedodd bod y cofiant yn ehangach na phwnc rhywioldeb yn unig a bod “holl fywyd Kate” ynddo.

“Roedd hi’n berson dyngarol, caredig a chymwynasgar. Roedd Kate ei hun yn ymwybodol ei bod wedi troi’n fwli cas. Ond, roedd wedi suro gan daeogrwydd y Cymry, roedd hi wedi chwerwi hefyd oherwydd ei bod wedi colli ei gŵr a’i brodyr i gyd. Mae’n gofiant trist iawn,” meddai Alan Llwyd cyn ychwanegu bod Kate Roberts yn ddynes fawr, yn llenor ac yn gymwynaswraig fawr.

“Mae’r ddelwedd sydd gan ein cenhedlaeth ni ohoni yn gamarweiniol iawn. Roedd yn ddynes ddyngarol iawn, mae hynny i’w weld ym mlwyddyn marwolaeth Morris,” meddai.

“Dydw i ddim yn gweud mwy o sylw o’r ffaith ei bod hi’n ddeurywiol na’r ffaith bod hi’n aelod o’r blaid genedlaethol. “Ffeithiau ei bywyd hi yw’r rhain i mi – ond mae’n nhw’n ffeithiau na ellwch chi fyth eu hanwybyddu nhw.”

Byddai claddu’r ffeithiau  hyn yn “llwfr ac yn awgrymu bod rhywbeth o‘i le mewn bod yn hoyw,” ychwanegodd.

“Mae Kate Roberts wedi codi yn fy ngolwg i yn y ffaith ei bod wedi gorfod dioddef hyn, roedd hi’n byw mewn oes anoddefgar iawn, ddim yn gallu dweud ac roedd hyn yn ei thagu hi.”

Bydd y cofiant yn cael ei lansio yn Aberystwyth heno.

 Malan Vaughan Wilkinson