Mi glywodd Gruff Rhys y band Chwarter i Un yn ymarfer un tro
Mae un o wynebau mwya’ cyfarwydd Pobol y Cwm, Pennaeth Materion Corfforaethol S4C a brawd mawr Gruff Rhys wedi casglu caneuon eu band coleg at ei gilydd ar gryno ddisg newydd.
Ar yr albym newydd Cofnod mae 15 o draciau gan Chwarter i Un, band gafodd ei ffurfio yn 1979 ym Mhrifysgol Aberystwyth i gystadlu mewn Eisteddfod Ryng-golegol.
Ceir blas o wleidyddiaeth y cyfnod yng nghaneuon Chwarter i Un, ond mae hiwmor a hwyl perfformiadau byw yn amlwg hefyd.
Roedd cael laff yr un mor bwysig i’r aelodau ag oedd y caneuon fwy dwys am Gymru dan droed Maggie Thatcher.
“Roedd rhai caneuon llawn hwyl, ond roedd ‘Dôp ar y Dôl’ a ‘Cenedlaetholi Tir’ yn reit Genedlaetholgar a Sosialaidd,” meddai Gwyn Elfen, aka Densil Pobol y Cwm ac un o ddau’n canu i Chwarter i Un.
Ar ‘Cenedlaetholi Tir’ mae’r geiriau ‘Lladrad yw pob eiddo’ yn cael eu canu, sef adlais o arwyddair Marcsaidd yr Anarchydd Ffrengig Pierre-Joseph Proudhon.
Mae caneuon ysgafnach fel ‘Tîn Traddodiadol’ sy’n cynnwys ‘A jîns fourteen/Yn dynn am dy dîn…Ti ddim yn smart/Dim byd ond tart!’.
“Doedd o ddim yn gyfnod mor P’C. a hynny,” meddai Gwyn Elfyn sy’ bellach yn 51 oed ac yn cofio dyddiau coleg fel cyfnod pan oedd brwydr yr iaith a gwrthryfela yn erbyn Llywodraeth y dydd yn boblogaidd.
Darllenwch weddill hanes y band yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.