Mae undeb y newyddiadurwyr wedi rhybuddio y gallai’r Western Mail ddod i ben fel papur dyddiol.

Mewn datganiad i’r Grŵp Gorchwyl ar Ddyfodol y Cyfryngau yng Nghymru yn y Senedd heddiw, dywedodd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, yr NUJ, eu bod nhw’n poeni y galli’r Western Mail orfod torri’n ôl i fod yn bapur wythnosol, oherwydd  pwysau’r toriadau.

Ond mae pennaethiaid y papur wedi mynnu nad oes ganddyn nhw “unrhyw fwriad o gwbl”  i droi’r Western Mail yn bapur wythnosol.

Yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r grŵp gorchwyl heddiw, dywedodd yr NUJ fod y diwydiant papurau newydd erbyn hyn wedi cyrraedd sefyllfa “tyngedfennol a pheryglus.”

Dywedodd yr NUJ fod y sefyllfa wedi effeithio’n arbennig ar weithgareddau Media Wales, sy’n gyfrifol am y Western Mail, y South Wales Echo, a’r Wales on Sunday ymhlith papurau newydd eraill.

“O fewn Media Wales, mae yna farn gyffredinol ymhlith ein haelodau fod gan bapurau newydd fywyd byr iawn ar ôl.

“Mae yna ddyfalu y bydd y Western Mail yn dod i ben fel papur sy’n cael ei gyhoeddi’n ddyddiol ac yn mynd yn bapur wythnosol. Os bydd hyn yn digwydd bydd mwy o swyddi yn cael eu colli, a bydd Cymru yn colli ei hunig bapur dyddiol sy’n ceisio cymryd golwg cenedlaethol o’r wlad.”

Mae’r NUJ yn amcangyfrif bod tua 100 o swyddi yn yr adran olygyddol wedi cael eu colli yn Media Wales rhwng 2003 a 2011 ac mae’r undeb  yn poeni y gallai rhagor o’u 138 o staff fynd os yw’r pryderon am bapur wythnosol yn cael eu gwireddu.

Yn ôl yr NUJ, does gan eu haelodau “ddim ffydd yn rheolaeth grŵp Trinity Mirror, ac mae’n ymddangos nad oes strategaeth glir ganddyn nhw tu hwnt i gyflwyno toriadau er mwyn gwneud i’w cyfrifon edrych mor iach a phosib.

“Yn anochel, mae’r toriadau yn ei gwneud hi’n fwy anodd i’r rheiny sydd ar ôl i gynhyrchu’r papurau.”

Yn ôl yr NUJ, mae Media Wales wedi gwneud un cyhoeddiad am ddiswyddiadau bob blwyddyn, ar gyfartaledd, ers 2003.

Prif Ohebydd y Western Mail yn poeni

Roedd Prif Ohebydd y Western Mail, Martin Shipton, sydd hefyd yn Gadeirydd Cangen yr NUJ yng Nghaerdydd a De Ddwyrain Cymru, yn ymddangos o flaen y Grŵp Gorchwyl ar ddyfodol y Cyfryngau yng Nghymru heddiw, lle bu’n mynegu ei bryderon am ddyfodol y diwydiant.

Mewn sgwrs â chylchgrawn Golwg cyn rhoi tystiolaeth i’r grŵp heddiw, dywedodd Martin Shipton ei fod yn pryderu fod yr holl dorri’n ôl ar staff wedi tanseilio gallu hir-dymor y papur i gael ei gyhoeddi’n ddyddiol.

Dywedodd Martin Shipton ei fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn clywed pryderon y diwydiant, ac yn gallu pwyso ar Trinity Mirror, perchnogion y Western Mail, i newid eu ffordd o weithredu.

“Er nad oes gan y Cynulliad unrhyw bŵer rheolaethol yn y maes, rydan ni’n awgrymu eu bod nhw’n cychwyn deialog gyda’r cwmnïau sy’n rhedeg papurau newydd yng Nghymru,” meddai Martin Shipton.

“Mae’r Cynulliad yn gyfranddalwr yn hyn o beth mewn dwy ffordd: mae parhad papurau newydd Cymru yn bwysig iawn o safbwynt democratiaeth; hefyd, o safbwynt ariannol, mae’r Cynulliad yn darparu incwm hysbysebu sylweddol i Trinity Mirror.”

Ers ei sefydlu yn 1999, mae cyfrifon yn dangos bod y cwmni yng Nghymru wedi gwneud elw cyn-treth o £161.42 5 miliwn.

Ond ychydig iawn o’r arian yma sydd wedi ei fuddsoddi ym mhapurau Trinity Mirror yng Nghymru, yn ôl Martin Shipton, sy’n dweud ei bod yn amser i wleidyddion  “gymryd y sefyllfa o ddifrif a phwyso ar y cwmni” i roi’r gorau i dorri nôl ar staff.

Mae Martin Shipton yn rhagweld y bydd y patrwm o dorri nôl yn parhau, ac yn rhybuddio na fydd dyfodol i’r Western Mail fel papur dyddiol os daw mwy o golledion o ran staff.

Gallwch ddarllen weddill y cyfweliad â Martin Shipton am ddyfodol y Western Mail yng Nghylchgrawn Golwg, 17 Tachwedd.