Kate Roberts
Mae academydd wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn gobeithio y bydd Cofiant Kate Roberts yn “gymorth i normaleiddio’r syniad bod Cymru yn wlad lle mae pobl hoyw wedi bod yn rhan o’i hanes hi erioed.”
Bydd cofiant cyflawn a dadlennol Alan Llwyd i “Frenhines ein Llên”, Kate Roberts, yn cael ei lansio nos yfory yn Aberystwyth.
Yn ôl Alan Llwyd, mae cynnwys dau o’i dyddiaduron ynghyd â llythyrau i amryw ffrindiau yn taflu goleuni ar ei pherthynas gymhleth â’i gŵr, Morris Williams, yn ogystal â chodi cwestiynau ynghylch ei rhywioldeb hithau. Dyma’r tro cyntaf i’r dogfennau hyn weld golau dydd.
Yn ôl y cyhoeddwyr, mae’r gyfrol sy’n ffrwyth gwaith ymchwil manwl, yn “datgelu holl gyfrinachau’r berthynas rhwng bywyd a gwaith Kate.”
‘Cyfraniad diwylliannol’
“Mi fydd y Cofiant yn bwrw goleuni newydd ar ei gwaith hi,” meddai’r darlithydd Cymraeg, Dr Simon Brooks wrth Golwg360.
“Ond dw i’n amau mai’r prif gyfraniad fydd un diwylliannol i’r byd Cymraeg. Bydd y cofiant o gymorth, ‘dw i’n gobeithio, i normaleiddio’r syniad yma bod Cymru yn wlad lle mae pobl hoyw wedi bod yn rhan o’i hanes hi erioed.
“Yr hyn rydan ni’n dechrau gweld nawr yw’r hyn sy’n wir am bob gwlad arall yn y Gorllewin. Lle mae tystiolaeth bendant neu awgrymog yn dod i’r wyneb bod nifer helaeth o’i llenorion creadigol enwocaf hi naill ai’n hoyw, yn ddeurywiol neu gyda rhywioldeb sy’n amwys mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.”
Dywedodd mai un o’r pethau mwyaf “anffodus” ynglŷn â Kate Roberts ydi sut mae’n cael ei phortreadu “yn reit aml fel hen wreigan, ddiflas, gas yn llechu yn y gornel.” Roedd yn teimlo bod hynny yn “gwneud cam â hi.”
“Roedd hi’n amlwg yn ddynes ifanc a deallus nad oedd, o bosibl yn gallu mynegi ei rhywioldeb neu ei hunaniaeth rywiol yn y dull roedd hi’n dymuno gwneud.”
‘Hoelion wyth diwylliant Cymraeg’
Mae’n bwysig yn wleidyddol i feddwl am rywioldeb, meddai’r academydd. “Mi fyddwn i’n dweud bod rhywioldeb nifer helaeth o hoelion wyth y diwylliant Cymraeg yn amwys.
“Mae Kate yn fan hyn, mae gennych chi John Gwilym Jones, T H Parry Williams a’i ysgrifau eithaf awgrymog yn amwys. Yn wleidyddol, mae hyn yn dangos fod yr hyn rydach chi’n ei weld mewn gwledydd eraill – canran go uchel o bobl greadigol yn y gymdeithas yn hoyw – bod hynny yn wir am y diwylliant Cymraeg hefyd,” meddai cyn dweud bod traddodiad o drafodaeth am rywioldeb yng Nghymru.
Mae’r academydd yn credu bod “lle i gael cyfrol sy’n trafod hunaniaeth hoyw a llenyddiaeth”.
“Jest oherwydd bod awdur ddim wedi teimlo yn ei gymdeithas o/hi ei bod hi’n briodol trafod ei rhywioldeb yn agored, dyw hynny ddim yn golygu bod hi’n bwrw llen arno o gwbl,” meddai.
Y Cofiant
“Mae hwn yn gofiant cyflawn, manwl, ’dan yr wyneb’,” eglura Alan Llwyd, “ac oherwydd mai cofiant dan yr wyneb ydyw, mae’n dadlennu pethau hynod o bersonol ynghylch rhywioldeb Kate Roberts ac ynglŷn â’i pherthynas â’i gŵr, ond mae’r dadleniadau a’r darganfyddiadau newydd a geir yn y gyfrol yn gyffredinol yn goleuo’i holl fywyd a’i holl waith.”
“Gwn y bydd y cofiant yn destun trafod mawr,” ymhelaetha’r bardd a’r llenor, “ond mae’n rhaid i mi bwysleisio mai cofiant cyflawn yw hwn i un o brif lenorion ein cenedl, ac mae’r stori i gyd yn stori gyffrous a diddorol, a hynod o drist ar adegau. Cofiant i arwres yw hwn.”
‘Digideiddio casgliad Kate Roberts’
Mae ymdrech ar y cyd rhwng myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, a chartref genedigol yr awdures Gymraeg Kate Roberts yn golygu bod hanes bywyd “brenhines llenyddiaeth Cymru” ar gael i bawb, meddai Prifysgol Bangor heddiw.
Mae Canolfan Dreftadaeth Cae’r Gors wedi bod yn gweithio ar brosiect gyda Diane Jones myfyrwraig ôl-raddedig o Brifysgol Bangor er mwyn sicrhau bod y tŷ a hanes Kate Roberts yn dod yn fyw i ymwelwyr a phlant ysgol.
Tyddyn ym mhentref Rhosgadfan, Gwynedd, yw Cae’r Gors – cartref genedigol yr awdures Kate Roberts (13 Chwefror, 1891 – 4 Ebrill 1985). Wedi ei marwolaeth fe wnaeth Cronfa Deyrnged Kate Roberts, a brynodd Cae’r Gors yn 1967 dderbyn nifer fawr o roddion gan y gymuned leol a theulu Kate Roberts. Mae’r rhoddion, sy’n cynnwys llythyrau, arteffactau, gwrthrychau cartref a dillad a oedd yn perthyn i Kate Roberts yn ystod ei hoes, bellach wedi’u digideiddio a’u creu fel adnodd ar-lein sydd ar gael i bawb.
“Mae ychydig o’r archif eisoes ar gael ar-lein, ond mae gennym lawer o waith i’w wneud,” meddai Diane Jones, sy’n enedigol o Ddyffryn Nantlle.
“Byddaf yn gweithio ar y prosiect am ddwy flynedd arall fel rhan o fy mhrosiect ymchwil yn Ysgol y Gymraeg. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar yr archif ddigidol, ond rwyf hefyd yn y broses o wneud ffilm fer am waith yr awdures. Bydd hyn yn cyfuno fy mhrosiect ymchwil â’r gwaith dwi’n ei wneud yng Nghae’r Gors.”
Dywedodd Diane Jones fod “angen i ni wneud y gorau o’n heiconau llenyddol yma yng Nghymru” a bod Kate Roberts “yn haeddu cymaint o sylw â Jane Austen.”
Malan Wilkinson