Enillwyr y llynedd
Mae S4C yn lansio Cystadleuaeth Cân i Gymru 2012 heddiw, ac yn gwahodd cyfansoddwyr ar hyd a lled Cymru i gystadlu am y wobr o £7,500 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd y flwyddyn nesaf.

Y llynedd, fe dderbyniodd Cân i Gymru fwy o geisiadau i’r gystadleuaeth nac erioed o’r blaen – ac mae’r trefnwyr yn gobeithio am ymateb cystal, os nad gwell, eleni.

Bydd gan gantorion a chyfansoddwyr hyd at ddydd Llun, 9 Ionawr 2012, i anfon eu ceisiadau i mewn at S4C, cyn i’r caneuon hynny gael eu torri i lawr i’r wyth olaf, yn barod ar gyfer y rhaglen fyw a’r pleidleisio ar 4 Mawrth 2012.

Enillwyr y gystadleuaeth llynedd oedd y cyfansoddwyr Steve Balsamo ac Ynyr Roberts, a’r gantores Tesni Jones, gyda’r gân Rhywun yn Rhywle.

Wrth edrych yn ôl ar ei flwyddyn ers ennill y gystadleuaeth, mae Ynyr Roberts yn dweud bod ennill y gystadleuaeth wedi bod yn hwb mawr i’w yrfa fel cyfansoddwr.

“Mae o wedi rhoi cyfle i mi ysgrifennu ar gyfer pobol eraill ac wedi bod yn ffordd dda o ddatblygu cysylltiadau efo’r wasg a chyfansoddwyr a pherfformwyr eraill,” meddai. “Buaswn i yn argymell pobol i drio’r gystadleuaeth.”

Yn ogystal ag ennill Cân i Gymru 2011, aeth Ynyr a’r tîm i’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, a llwyddo i gipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yno hefyd.

Mae S4C yn annog unrhyw un sy’n dymuno cystadlu i fynd ati ar unwaith, a chael eu ceisiadau i mewn erbyn y dyddiad cau.

Bydd yr wyth cân wedyn yn cael eu dewis ar gyfer rhestr fer gan banel o feirniaid, sy’n cael eu cadeirio gan Owen Powell, gynt o’r band Catatonia. Bydd y caneuon hynny wedyn yn cystadlu mewn rhaglen fyw o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 4 Mawrth, 2012.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â chwmni Avanti ar 02920 838 149 neu: canigymru2012@avantimedia.tv.