Yr Ynys Las Llun: Laurence Dyke
Bydd ffilm ddogfen sy’n dilyn tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe i ganol eira a rhew yr Ynys Las yn cael ei dangos am y tro cyntaf yr wythnos nesa’.

Bydd y ffilm yn dilyn tîm o rewlifolegwyr i’r Ynys Las ar eu taith i ddarganfod sut a pham mae’r haenau iâ ar yr ynys yn newid.

Mae’r ffilm yn olrhain llwyddiannau a rhwystredigaethau’r tîm ar y tirwedd anodd wrth iddyn nhw geisio gweithio ar ddarn o’r ddaear sy’n ddim ond rhewlifoedd a mynyddoedd iâ.

Cafodd y ffilm ei wneud yn ystod taith ymchwil gan Adran Rhewlifoleg y brifysgol i dde-ddwyrain yr Ynys Las yn ystod 2010 a 2011.

Mae rhai o uchafbwyntiau’r daith yn cynnwys stormydd eira anferth yng nghanol y mynyddoedd iâ, dod ar draws arth wen, a golygfeydd o’r tirwedd rhyfeddol yn ymestyn o’r mynyddoedd a’r rhewlifoedd i rai o ffirodau mwyaf pellennig y byd.

Cafodd y ffilm ei saethu a’i olygu gan ymchwilwyr Grŵp Rhewlifoleg Prifysgol Abertawe ar y cyd â chwmni cynhyrchu 196 Productions o Gaerdydd.


Llun: Laurence Dyke
Astudio’r newidiadau

Roedd yr ymchwil yn rhan o brosiect Ymddiriedolaeth Leverhulme GLIMPSE, sy’n edrych ar sefydlogrwydd a datblygiad yr iâ ar yr Ynys Las, dan arweiniad yr Athro Tavi Murray o Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol.

Yn ôl yr Athro Murray, roedd yr Ynys Las yn le “llawn ysbryoliaeth i wneud gwyddoniaeth, ac mae’r ffilm yma’n ffordd hyfryd i ni ddangos i bobol sut mae hi i fyw a gweithio ar yr Ynys Las, yn ogystal â sut mae’r iâ yno yn newid. Ac wrth gwrs, mae’r newid sy’n digwydd ar yr Ynys Las yn ein heffeithio ni gyd.”

Roedd y profiad o weithio a ffilmio yn yr ynys yn “anrhydedd llwyr,” yn ôl y myfyriwr PhD, Laurence Dyke.

“Roedd y tirwedd yn anhygoel, gawson ni’r cyfle i ymweld â rhai o’r ffiordau mwyaf yn y byd, lle nad oes llawer o bobol erioed wedi bod. Ond mae hefyd yn le eitha’ gwyllt, ac fe gaethon ni brofi’r haul ganol nos, a’r Aurora Borealis anhygoel, ac ambell i storm eitha’ garw.”

Yn ôl Laurence Dyke, mae’n bwysig iawn bod rhagor o ymchwil yn cael ei wneud ar yr Ynys Las: “Mae’r iâ yno yn newid yn gyflym iawn, ac mae’n gyffrous iawn i fod yn ymchwilio i’r ffordd y mae’r haenau iâ wedi bod yn newid yn y gorffennol. Gobeithio y gall yr ymchwil yma nawr gyfrannu tuag at ddeall sut y bydd yr haenau iâ yn newid yn y dyfodol.”

Bydd y ffilm ddogfen 50 munud – A GLIMPSE of Greenland: The Disappearing Ice – yn cael ei ddangos yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin ddydd Mawrth nesaf, 22 Tachwedd, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn.

Er mwyn archebu tocyn, ffoniwch Canolfan Gelfyddydau Taliesin ar 01792602060, neu e-bostio: office@taliesinartscentre.co.uk.