Fe fydd cymal olaf pencampwriaeth rali’r byd yn cychwyn yn Llandudno heddiw.
Dros y pedwar diwrnod nesa fe fydd cystadleuwyr yn gyrru 350 o filltiroedd o Landudno i Fae Caerdydd.
Dyma’r tro cyntaf ers 1996 i’r Ralï gael ei chynnal yng ngogledd Cymru.
Yn brwydro am y Bencampwriaeth Byd mae Sebastien Loeb o Ffrainc sy’n cynrychioli Citroen.
Fe sydd wedi ennill Rali GB Cymru ers y tair blynedd diwethaf ac wedi ennill y bencampwriaeth ei hun saith gwaith.
Fe fydd yn cychwyn y Rali gyda wyth pwynt o fantais dros Mikko Hirvonen o’r Ffindir, sy’n rasio i gwmni Ford.
Bydd bron i 80 o yrwyr yn cystadlu yn y bencampwriaeth, gan gychwyn yn Llandudno am 2.30pm prynhawn ma.
Ar ôl cymal yng nghoedwig Clocaenog, byddan nhw wedyn yn dod nôl i ar gyfer cymal Pen y Gogarth.
Yfory, bydd y gystadleuaeth yn symud ymlaen i’r Canolbarth i ardal Aberystwyth, yna i ardal Brycheiniog ar 12 Dachwedd ac yn gorffen yng Nghaerdydd ar 13 Dachwedd.