Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod darlledu yng Nghymru yn “wynebu dyfodol trychinebus os na wnawn ni rywbeth”.

Heddiw, mae’r Gymdeithas yn lansio datganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru gan fynnu ei bod yn bryd i Aelodau Cynulliad “godi llais” am y mater.

Fe fydd aelodau o’r Gymdeithas yn chwarae gêm rygbi tu allan i’r Senedd heddiw (12:45yp, 8  Dachwedd) “yn y gobaith y gellir pasio’r grymoedd dros ddarlledu i Gymru wrth i wleidyddion Bae Caerdydd drafod S4C.”

Eisoes, mae’r Gymdeithas wedi datgan eu bod yn pryderu am y bygythiad y bydd Radio Ceredigion yn cael gwared â’i allbwn Cymraeg, penderfyniad Llywodraeth San Steffan i wrthod amodau Cymraeg ynghylch teledu lleol, y cwtogiadau o 40% i gyllideb S4C a’r diswyddiadau yn BBC Cymru.

Daw lansiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wrth i Aelodau Cynulliad ddadlau ynghylch dyfodol S4C. Mae’r Gymdeithas yn credu “fod angen ehangu’r drafodaeth.”

‘Trychinebus’

“Mae darlledu yng Nghymru yn wynebu dyfodol trychinebus os na wnawn ni rywbeth nawr,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar agwedd San Steffan tuag at ddarlledu yn y ffordd y gwnaethon nhw ddi-ystyrru pobl Cymru a phwysigrwydd y sianel wrth benderfynu ar ei dyfodol.

“Yr unig ffordd i atal penderfyniadau annoeth yn y dyfodol yw sicrhau nad nhw sydd yn cael penderfynu ar y materion yma. Yr hyn sydd ei angen yw datganoli cyfrifoldeb fel y gallwn ni greu strwythur gref Gymreig i ddarlledu fydd yn rhoi blaenoriaeth i’n cymunedau.

“Mae’n bryd nawr i’n Haelodau Cynulliad sefyll lan a mynnu bod yr holl rymoedd dros ddarlledu yn dod yma i Gymru, a phwyso ar San Steffan nes bydd hynny’n digwydd.”

Wrth siarad am sefyllfa Radio Ceredigion yn benodol fe ddywedodd Adam Jones llefarydd darlledu’r Gymdeithas y gallai “Leighton Andrews ddangos arweiniad”.

“Chwe wythnos yn ôl cafodd Ofcom a Bwrdd yr Iaith fis i esbonio eu safbwyntiau am sefyllfa radio lleol. Hyd yma nid ydym wedi clywed unrhyw beth pellach a gyda’r sefyllfa erbyn hyn yn fater o frys mae oedi’r gweinidog yn codi cwestiynau am yr hyn sy’n digwydd.”