Mae 16 o bererinion Hindw wedi cael eu lladd a 50 arall wedi eu hanafu wedi i gannoedd o bobol ruthro ar draws ei gilydd yn ystod seremoni grefyddol ar lannau Afon y Ganges yng ngogledd India.

Digwyddodd y rhuthr yn Haridwar, yn nhalaith Uttar Pradesh, wedi i rai o’r pererinion ddisgyn tra fod y rheiny tu ôl yn dal i wthio ymlaen, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth, Amit Chandola.

Roedd miloedd o bobol wedi ymgasglu ar lannau’r afon ar gyfer y seremoni gweddio yn y dref sydd wrth droed mynyddoedd yr Himalaya, lle mae’r llif o’r mynyddoedd yn cwrdd â gwastadeddau eang gogledd India.

Yn ôl Amit Chandola, mae’r heddlu wedi symud 16 o gyrff o’r safle erbyn hyn, ac mae 50 o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty  gerllaw er mwyn cael triniaeth.

Mae cannoedd ar filoedd o bererinion Hindw yn ymweld â Haridwar bob blwyddyn er mwyn cael ymdrochi yn nŵr sanctaidd y Ganges, sydd, yn ôl eu cred, yn golchi pob pechod oddi arnyn nhw ac yn eu rhyddhau rhag cylchdro bywyd ac ail-enedigaeth.

Dydi’r digwyddiad hwn ddim yn un anarferol mewn pererindodau Hindwaidd, ac mae awdurdodau yn aml yn ei chael hi’n anodd rheoli’r rhuthr o bobol sy’n tyrru yno i addoli.