James Raw ac Owain Pugh (ar fferm James Raw - Tyllwyd, Cwmystwyth, ger Aberystwyth)
Heddiw bydd Cig Oen Mynyddoedd Cambrian yn cael ei werthu am y tro cyntaf ar brif sianel siopa’r DU, QVC.
Bydd blychau o wahanol ddarnau o gig oen Cymreig ffres yn cael eu gwerthu ar yr awyr a thrwy wefan y sianel.
Mae’r cig oen dan sylw’n cael ei gynhyrchu gan grŵp o ffermwyr sy’n rhan o fenter wledig Menter Mynyddoedd Cambria, a gefnogir gan y Tywysog Siarl.
Ryseitiau byw
Cig Oen wedi'i baratoi
Bydd sioe goginio awr o hyd i’w gweld am 1pm heddiw, y bydd y cogydd Rhodri Edwards o’r Ffarmers, Llanfihangel-y-Creuddyn, a Gareth Rowlands sy’n un o Gyfarwyddwyr Cwmni Mynyddoedd Cambrian yn cymryd rhan.
Bydd Rhodri’n paratoi nifer o ryseitiau blasus ar gyfer amryw ddarnau o gig oen yn ystod y sioe fyw.
Bydd y ryseitiau’n cynnwys Cawl Cymreig traddodiadol, tagine cig oen Morocaidd, golwythion lwyn gyda llysiau rhost a ffiled gwddf gyda saws o win coch a chwrens coch.
Cig oen traddodiadol
Mae cig oen Mynyddoedd Cambria’n cael ei gynhyrchu’n naturiol gan grŵp o 21 o deuluoedd traddodiadol sy’n ffermio’r mynyddoedd, ac yn ôl y cynhyrchwyr mae’n gynnyrch o ansawdd eithriadol sy’n rhwydd i’w baratoi.
Mae Rhodri Edwards hefyd yn un o grŵp o Lysgenhadon Twristiaeth Mynyddoedd Cambrian a benodwyd yn ddiweddar gan y Tywysog Siarl i helpu i hyrwyddo twristiaeth o safon yn y rhanbarth.
Fe gafodd bwyty’r Ffarmers ei ddewis yn ddiweddar fel y lle gorau i gael cinio dydd Sul yng Nghymru.
Cyfle i arddangos
Mae Menter Mynyddoedd Cambria yn helpu cynnal cymunedau gwledig a ffermydd traddodiadol yr ucheldir.
“Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos Cig Oen Mynyddoedd Cambrian” meddai Rheolwr Busnes Cwmni Mynyddoedd Cambrian, Deanna Leven.
“Mae’n cynnig cyfle i filoedd o wylwyr yn y DU brynu’r cig pur, mwyaf blasus o galon Cymru.”
“Mae hefyd yn ffordd wych o godi proffil yr ardal a thynnu sylw at y modd y mae’r fenter wedi helpu i ychwanegu gwerth go iawn at gynnyrch ffermwyr lleol. Y gobaith yw y bydd hwn yn ddechrau perthynas barhaus â QVC i werthu cig oen a chynnyrch arall Mynyddoedd Cambrian yn y dyfodol.”
Mae gan QVC 8 miliwn o gwsmeriaid ar gyfartaledd, ac 20 miliwn o wylwyr y flwyddyn.
Bydd rhaglen Cig Oen Mynyddoedd Cambrian yn cael ei darlledu’n fyw am 1pm heddiw, dydd Mawrth, 8 Tachwedd. Mae QVC ar gael ar Sky 640, Freeview 16, Virgin TV 740, Freesat 800.