Dunbar (Huw Garmon) yn ordro stoc o'r ffatri nicyrs
Bydd dau wyneb sy’n gyfarwydd iawn i gynulleidfa S4C yn ymddangos ar strydoedd Coronation Street o fewn wythnosau i’w gilydd.

Mae Huw Garmon, sy’n enwog am ei ran fel Hedd Wyn yn y ffilm o’r un enw, eisoes wedi ymddangos ar opera sebon hyna’r byd yr wythnos hon, yn actio’r cymeriad ‘Dunbar’.

A’r wythnos ddiwethaf fe fu un o wynebau amlwg Tipyn o Stad, Pen Tenyn a Pengelli, Wyn Bowen Harries, yn ffilmio pennod ar gyfer rhaglen deledu mwya’ hirhoedlog y byd – mae Coronation Street wrthi ers 1960.

“Mae pawb yn egseited am y peth pan dw i’n dweud wrthyn nhw,” meddai Wyn Bowen Harries wrth Golwg 360. “Mae’n rhaglen mor eiconig.”

Fe fydd Wyn Bowen Harries yn chwarae rhan y Parchedig Douglas mewn dwy bennod o Coronation Street.

Mae eisoes wedi ffilmio un bennod ac mi fydd yn ffilmio’r ail bennod yr wythnos nesaf.

“Mae’n anhygoel meddwl faint o bobol sy’n gwylio un bennog o Coronation Street – fwy na thebyg mwy na sy’ wedi gweld fi mewn deng mlynedd o waith!”

Roedd y broses o gael rhan yn Coronation Street yn un weddol rhyfedd, meddai.

“Gofynnodd yr asiant i fi fyswn i’n gallu mynd i Fanceinion y diwrnod wedyn, a phan droies i fyny roedd yna rhyw hanner dwsin o ddynion, yn edrych yn weddol debyg i fi, yn sefyll yno.

“Fe ddarllenais i’r sgript, a dyna fo. Yr unig gyfarwyddyd ges i oedd: ‘He’s one of our Corrie characters’ – sy’n golygu dim i rywun sydd heb wylio Coronation Street efalle, ond dw i’n gwylio Corrie yn eitha’ rheolaidd, yn lwcus.”

Mae Wyn Bowen Harries yn ei gweld yn gyd-ddigwyddiad “gweddol rhyfedd” ei fod ef a Huw Garmon ar Coronation Street tua’r un adeg.

Fe fydd Wyn Bowen Harries yn ymddangos ar Coronation Street fel y Parchedig Douglas mewn dwy bennod – un cyn y Nadolig, a’r llall wedi’r ŵyl.

Yn y gorffennol mae llu o Gymry wedi ymddangos ar Coronation Street, gan gynnwys Sue Roderick a Richard Harrington, ac mae Ian Puleston-Davies yn y sioe ar hyn o bryd.