Bydd llyfr coginio Cymraeg newydd yn cael ei lansio mewn da bryd ar gyfer coginio’r cinio Nadolig eleni, gydag addewid i ateb llawer o’r cwestiynau sy’n codi wrth fynd ati i baratoi prydau cyffredin, ac ychydig mwy cymhleth.
Gwres y Gegin yw enw’r llyfr newydd gan y gogyddes Heulwen Gruffydd, ac ynddo mae ’na gasgliad o bron i ddau gant o ryseitiau.
Mae Heulwen Gruffydd yn hen law yn y gegin, ac wrth ddysgu eraill sut i goginio, ar ôl treulio 20 mlynedd yn helpu Hywel Gwynfryn yn y gegin yn stiwdio Helo Bobol, ac fel athrawes ym Mangor.
Ers yr 80au, mae Heulwen Gruffydd wedi bod yn ateb ceisiadau am awgrymiadau coginio a ryseitiau o ar draws Cymru – a gyda stôr ohonyn nhw bellach ar bapur ganddi, mae hi wedi penderfynu rhoi’r cyfan at ei gilydd mewn llyfr coginio newydd.
Yn ôl Hywel Gwynfryn, mae’r llyfr yn “gasgliad arbennig o ryseitiau a ddeuai a dŵr i’m dannedd yng nghwmni Heulwen yn y stiwdio.”
Ac mae yma brydau ar gyfer bob achlysur a thymor – ond gyda phennod arbennig i’r rheiny sy’n chwilio am syniadau ar gyfer y Nadolig, ac wedi hynny, gyda gweddillion y twrci a’r tatws.
Dyma’r casgliad cyntaf o ryseitiau i Heulwen Gruffydd eu cyhoeddi ers bron i 20 mlynedd, pan roddodd pedair cyfrol fechan o ryseitiau at ei gilyd yn yr 80au, ac yna un cyfrol o Blas ar y Gwrando i’r BBC yn 1993.
Ers hynny, mae hi wedi dal i goginio, a dysgu eraill sut i goginio, fel athrawes yn Ysgol Treborth, Bangor, ac wrth gyhoeddi ambell i ryseit ym mhapur bro ei hardal, Papur Menai.
Erbyn hyn, mae hi wedi ymddeol ym Mhorthaethwy gyda’i gŵr Llyr, ac mae’n nain brysur i dri o wyrion, ac un wyres.
Bydd Gwres y Gegin gan y Lolfa yn cael ei lansio nos Fawrth, 8 Tachwedd, yng Ngwesty’r Vic, Porthaethwy, gyda’r cyflwynydd Hywel Gwynfryn yn gwmni.