Huw Lewis
Bydd Llywodraeth Cymru yn galw am fwy o gydweithio rhwng gweinidogion ac arbenigwyr adfywio heddiw, er mwyn datblygu trefi ar draws Cymru.

Yn ei araith i ‘Gynhadledd Cyflawni Adfywio yng Nghymru’, mae disgwyl i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, ddweud bod y Llywodraeth yn mynd i gadw at eu haddewid o adfywio canol trefi a threfi glan môr Cymru.

Wrth annerch y gynulleidfa o arbenigwyr ar adfywio, bydd y Gweinidog yn galw am fwy o gyd-weithio rhyngddyn nhw â’r Llywodraeth er mwyn helpu cymunedau ar draws y wlad.

Mae disgwyl i’r Gweinidog ddweud ei fod yn awyddus i “gydweithio’n agos ag arbenigwyr yn y maes adfywio. Allwn ni ddim  â fforddio dilyn ein trywydd ein hunain a gwneud pethau ar ein pennau ein hunain.”

Yn ôl Huw Lewis, mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld cynlluniau sy’n “arwain, cyflawni ac integreiddio” er mwyn gwella natur gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cymunedau Cymru.

“Mae cyflawni yn golygu defnyddio’r gyllideb yn y ffordd orau posibl a gwneud y penderfyniadau gorau i Gymru, gan gyflawni ein hymrwymiadau yn ein maniffesto i adfywio canol trefi a rhoi bywyd newydd i drefi glan môr.”

Mae hefyd disgwyl i’r Gweinidog gyhoeddi cynhadledd arall ar gyfer y gwanwyn – Uwchgynhadledd Adfywio – a fydd yn datblygu ar waith y gynhadledd heddiw.