Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydd pobol yn gallu archebu eitemau newydd i’w darllen a dychwelyd eu llyfrau llyfrgell cyn bo hir, yn sgil cynllun adfer gwasanaethau llyfrgell y Cyngor.
Bydd model newydd ar gyfer archebu a chasglu yn ei le i ddechrau, ac mae disgwyl y bydd y system yn weithredol o ddechrau mis Gorffennaf.
Bydd angen i bobol sydd eisiau benthyg llyfrau neu eitemau eraill gysylltu â’r llyfrgell i’w harchebu, neu eu harchebu trwy’r catalog ar-lein yn y ffordd arferol.
Yna, bydd y llyfrgell yn cysylltu gyda’r defnyddwyr pan fydd yr eitemau yn barod i’w casglu, a threfnu amser ar gyfer gwneud hynny.
Dywed Cyngor Gwynedd mai’r bwriad fydd i ddefnyddwyr ddychwelyd eitemau trwy focsys fydd y tu allan i bob llyfrgell fydd wedi ail-agor.
‘Diogelwch ydi’r flaenoriaeth’
“Rydan ni’n falch iawn o allu cadarnhau ein bwriad ar gyfer ail-gyflwyno elfen o’r gwasanaeth llyfrgelloedd yn fuan,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am lyfrgelloedd.
“Yn amlwg, diogelwch defnyddwyr a staff ydi’r flaenoriaeth, a bydd ein llyfrgelloedd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i drin llyfrau llyfrgell, er mwyn helpu diogelwch a llesiant pobol.
“Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am yr union drefniadau yn fuan, ac mae’n bwysig fod trigolion yn deall na fydd modd i ni ailagor yr adeiladau Llyfrgell i’r cyhoedd yn y dyfodol agos.
“Ond rydan ni’n gobeithio y bydd y trefniadau newydd fydd ar waith o fis nesaf ymlaen yn cynnig cam yn ôl tuag at normalrwydd ar gyfer y nifer o bobol Gwynedd sy’n gwerthfawrogi ein gwasanaeth llyfrgelloedd.”