Cafodd y bennod gyntaf o bodlediad Cymraeg newydd, Yr Apocalyps Nawr, ei chyhoeddi ddoe (dydd Llun Mehefin 15).
Mae’r dyn sy’n gyfrifol am greu’r podlediad, Dylan Elidir Jenkins, wedi bod yn trafod y prosiect newydd â golwg360.
Mae Dylan Elidir Jenkins yn cyd-gyflwyno’r podlediad gyda Garmon ab Ion, sy’n adnabyddus am ei raglenni byr ‘Pa Fath o Bobol’ ar Hansh.
Steffan Dafydd sydd wedi creu’r gwaith celf tra bod y band Boy Azooga wedi creu’r gerddoriaeth.
Yn y podlediad, mae gwesteion yn dod i sgwrsio â’r ddau am eu hapocalyps delfrydol.
Er yr enw, dyw’r podlediad ddim wedi ei ysbrydoli gan y coronafeirws, yn ôl Dylan Elidir Jenkins.
“Mae’r syniad yma gyda fi ers eithaf hir, ac wedyn cafodd ei gomisiynu fis Hydref diwethaf,” eglura wrth golwg360.
“Yna daeth Garmon on board cyn y Nadolig ac fe wnaethom ni ddechrau recordio fis Ionawr.
“Dwi’n adnabod Garmon yn dda ac fe wnaeth o ddeall y syniad yn syth. Mae o’n gallu disgrifio’r podlediad yn well ac yn fwy cryno na fi hefyd.”
Dywed Dylan Elidir Jenkins fod y syniad wedi cael ei ysbrydoli gan ffilmiau apocalyptaidd a thrafodaethau mewn tafarndai.
“Ma’ fe’n drafodaeth dwi wastad yn cael mewn tafarndai, ‘beth fydda ti’n wneud mewn zombie apocalypse?’ math o beth,” meddai
“A dwi wastad wedi hoffi gemau a ffilmiau sy’n ymwneud â’r apocalyps.”
Lansio cwmni cynhyrchu
Mae Dylan Elidir Jenkins wedi lansio’i gwmni cynhyrchu ei hun, Cwmni Cynhyrchu Dilys, ynghyd â’r podlediad ac yn gobeithio gweithio ar syniadau eraill i’w cynhyrchu yn y dyfodol.
“Dwi am weld sut mae cyfres gyntaf Apocalyps Nawr yn mynd gyntaf a gweld lle i fynd o fanno,” meddai.
“Dwi wedi bod yn gwneud hwn ar ben swydd llawn amser, ac yn bendant fe hoffwn allu canolbwyntio ar wneud hyn llawn amser.”
Gwestai nesaf
Gyda phenodau’r podlediad eisoes wedi cael eu recordio, mae Dylan Elidir Jenkins wedi rhoi blas i golwg360 ar ba westeion y gall gwrandawyr ddisgwyl eu gweld yn ymddangos ar y podlediadau nesaf.
“Mae rhan fwyaf o’r gwestai yn artistiaid neu mewn bandiau a dwi’n hoffi’r pethau maen nhw i gyd yn wneud,” meddai.
“Oherwydd bo’ ni wedi cael pobol greadigol, mae’r apocalyps i gyd yn od ac yn wahanol i’w gilydd.
“Mae pawb yn bod yn ofnadwy o fanwl a chreu byd newydd sy’n lot o hwyl.
“Bydd Ianto Gruffydd o’r band Papur Wal yn y bennod nesaf, ac yna bydd yr artist Seren Morgan Jones yn dod wedyn.”