Mae  Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau heddiw, (Mehefin 10), i ysgolion er mwyn iddyn nhw allu cynllunio ar gyfer ail-agor ysgolion ar Fehefin 29.

Cyhoeddwyd canllawiau ar gyfer lleoliadau addysg bellach hefyd gan fod disgwyl iddyn nhw ailagor ar gyfer rhywfaint o ddysgu wyneb yn wyneb o Mehefin 15 ymlaen.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r canllawiau, sef ‘Diogelu Addysg‘, yn rhoi cyngor ymarferol ac ar ddysgu ac addysgu er mwyn paratoi ysgolion ar gyfer dychwelyd yn raddol cyn diwedd tymor yr haf, gan gefnogi lleoliadau i gynyddu eu gweithrediadau’n ddiogel.

Bydd pob ysgol yn agor yn raddol. Bydd pob grŵp oedran yn cael eu rhannu’n grwpiau bach gydag amseroedd dechrau ac egwyl gwahanol.

Bydd hyn yn golygu mai traean o’r disgyblion, ar y mwyaf, fydd yn bresennol ar y tro.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw hefyd ganllawiau i leoliadau gofal plant, er mwyn helpu’r sector i agor yn ehangach a sicrhau bod darparwyr yn gallu gweithio’n ddiogel.

“Rydym i gyd yn gwybod y bydd treulio cyfnod mor hir i ffwrdd o’r ysgol, ffrindiau a’r dosbarth yn cael effaith niweidiol ar les a dysgu ein pobl ifanc,” meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg.

‘Ailgydio, dal i fynd a pharatoi’

“Dyma pam rydym wedi penderfynu y bydd rhan fwyaf o ddysgwyr yn gallu ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.

“Mae sicrhau cydbwysedd rhwng darparu canllawiau iechyd cyhoeddus cenedlaethol a galluogi hyblygrwydd lleol wedi bod yn hollbwysig wrth ddatblygu’r canllawiau hyn.

“Caiff rhagor o fanylion a chymorth eu darparu wrth i ysgolion ac awdurdodau lleol fynd ati i lunio cynlluniau manwl.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r penaethiaid, staff, undebau a rhieni sydd eisoes wedi rhannu eu cynlluniau a’u cynigion.

“Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod y mwyafrif o ddisgyblion a rhieni’n gallu manteisio ar y cyfle hwn mewn ffordd ddiogel, strwythuredig a synhwyrol.

“Iechyd a lles ein dysgwyr a staff yw ein blaenoriaeth bob amser. Mae ysgolion, colegau a lleoliadau eraill wrthi’n gweithio’n galed i gynllunio ar gyfer caniatáu i’w dysgwyr ddychwelyd ac i roi mesurau diogelu priodol yn eu lle. Bydd y canllawiau a gyhoeddwyd heddiw yn eu helpu i wneud hyn.”

Llawer o faterion i’w datrys

Er y syndod diweddar am ddyddiad ailagor ysgolion, mae undeb NEU Cymru yn croesawu canllawiau’r Llywodraeth heddiw.

“Mae’n hysbys y byddai’n well gennym fod wedi aros tan fis Medi cyn agor yn ehangach,” meddai David Evans, Ysgrifennydd NEU Cymru.

“Mae NEU Cymru yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol, cyn agor ysgolion yn ehangach ddiwedd mis Mehefin.

“Mae llawer o faterion logistaidd i’w datrys cyn yr agoriad ehangach, a byddwn yn ysgrifennu at ein haelodau gyda’r canllawiau hefyd.

“Mae’n hynod o falch nad oes disgwyl i weithwyr addysg proffesiynol roi cymorth i blant gweithwyr allweddol dros yr haf.

“Mae’r awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ddarparu trefniadau i sicrhau y gall ein gweithwyr allweddol, megis gofalwyr a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd gael cymorth i ddarparu gwasanaethau hanfodol. ”

Ailystyried

Er i’r Llywodraeth dderbyn ychydig o gefnogaeth gan NEU Cymru, nid yw’r undeb athrawon UCAC yn gwbl fodlon gyda’r canllawiau a gyhoeddwyd.

“Er ein bod ni’n croesawu cyhoeddiad y canllawiau hyn, mae ein pryderon difrifol yn parhau ynghylch natur gymhleth y dasg sy’n wynebu ysgolion mewn cyfnod difrifol o fyr, a’r lefelau uchel o risg sydd ynghlwm â’r dasg” meddai Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC

“Nid yw’r canllawiau’n datgan o gwbl, neu ddim yn ddigon clir, ynghylch nifer o faterion allweddol y byddem wedi’i ddisgwyl.

“Mae awdurdodau lleol, yn naturiol, wedi dechrau ar y gwaith cyn i’r canllawiau gael eu cyhoeddi. Felly mae anghysondeb wrth wraidd y broses gynllunio, pan ellid fod wedi osgoi hynny.

“Mae sawl mater amlwg sy’n peri pryder: cyfrifoldeb dros y ddarpariaeth gofal yn yr hybiau, mynediad cyfartal at gludiant diogel i’r ysgol, y defnydd a’r cyflenwad o PPE, a rôl y staff hynny sy’n cydfyw gyda rhywun sy’n fregus.

“Mae UCAC wedi ysgrifennu at y Gweinidog i godi’r materion hyn yn ogystal â rhestr hir o gwestiynau eraill, a byddwn yn pwyso am atebion buan.

“Er mwyn i ysgol ailagor yn ddiogel, mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i 5 egwyddor allweddol.

“Nid ydym o’r farn bod y canllawiau hyn yn sicrhau y caiff yr egwyddorion hynny eu gwireddu, ac rydym wedi gofyn i’r Gweinidog ail ystyried y penderfyniad i ailagor ysgolion i bob disgybl cyn yr haf.”